Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 12. î&liag-íyr, 1853. Cyf. VI. GWERSI Y FYNWENT. Ar un prydnawn têg yn yr haf, a'r haul wedi disgyn yn isel i'r gorllewin, ac yntaflu eibelydrau hwyrol ar ein gwlad, aethym i roi tro i fynwent y dref—lle hynod am gynyrchu ystyriaethau sobr, difrifol, a dwys. Fel yr oeddwn yn ymlwybro yn mysg y beddau, ac yn dal sylw ar y cof-adeiladau, dygwyddodd i mi droi fy ngolwg at gof- adail rhy w faban bach dau fis oed, oedd yn y briddell oer er's dwy flynedd. Meddyliais fod angeu yn ormes- deyrn o'r fath greulonaf, pan y gallai â'i gleddyf noeth drywanu calon yr un bach diniwaid, yr hwn oedd â gwên ei wyneb bach ieuangaidd yn ddigon i enyn serch- iadau y mwyaf diserch, i wresogi y cariad oeraf, ac i dyneru y fynwes fwyaf dideimlad, nes ymaflyd ynddo a'i gofleidio mewn cariad ac anwyldeb. Ond angeu, yr hen dyrant hwn, a drywanai ei gleddyf i'w galon. Clywais un hen filwr yn dweyd mai y creulondeb mwyaf a wnaeth efe erioed, ac a fu agos a gorchfygu ei deimladau, oedd tynu allan ei gleddyf i daro baban bach tua chwe mis oed, oedd yn gorwedd mewn cryd yn rhyw dý, ac yn gwenu yn ei wyneb ar ei waith yn dyfod i'w olwg. Yr oedd hyn yn greulondeb i'r eithaf. Ond am angeu, yr hen elyn didrugaredd hwn, y mae wedi lladd miloedd o rai bach diniwaid heb deimlo yr anhaws- der lleiaf, ac fe wna hyny eto. Enynodd hyn gasineb yn fy nghalon at bechod, yr hwn a roddodd fodoiiaeth i'r gelyn hwn, sef angeu ; a phenderfynais ei gasau tra byddwn byw. Wrth ymsymud yn mlaen yn araf, canfyddais ar y llaw ddeau i mi gof-adail un ferch ddeng mlwydd oed, oedd yno er's blwyddyn a haner. Daeth i fy meddwl eiriau yr Iesu, " Am hyny, byddwch chwithau barod; canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Yr oedd hon wedi dechreu teithio llwybrau Seion. Yr oedd yn un o