Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINL'LAN. Rhif. 5. Mai, 185*. Cyf. VII. CERYDDWCH, OND MEWN ADDFWYNDER. Yr ydym yn coflo clywed flynyddau yn ol, hen weinidog parchus a phoblogaidd yn dywedyd ar ei breg- eth, fod " y wialen mor angenrheidiol i fagu John a bara a chaws." Ac mor bendant ydyw llyfr Duw ar y mater, fel mai oferedd mawr ydyw i neb geisio trethu eu hymen- yddau i ffurfio rhesymau yn erbyn gosodaeth mor eglur. Lle y mae plant eisieu eu magu, bydd raid i awdurdod rhieni gael ei chynal i fyny; rhaid i ufudd-dod gael ei ofyn a'i hawlio, ac anufudd-dod ei geryddu a'i gospi; a'r rhieni nad ydynt yn gwneyd hyny, a anufuddhant i Dduw, a ddianrhydeddant eu hunain, ac yn y diwedd, ydynt yn debyg o ddinystrio eu plant. Ünd dylai penau teuluoedd gofio mai nid trwy lywodraethu eu teuluoedd dan reolaeth nwydau drwg, ydyw y fTordd i gynal i fyny eu hawdurdod ; ceryddu un diwrnod am fai bach yn arw a Hym, o herwydd eu bod hwy eu hunain yn dygwydd bod mewn fit anfoddog, a'r dydd arall yn gallu goddef beiau gwir wrthun, heb bron wneyd sylw ohonynt, am fod eu tymherau heb fod yn gynhyrfus gan amgylchiadau ereill. Y mae ceryddu plant o dan lywodraeth tymherau llygredig, wedi costio mwy i ambell un nag y gall tafod ei draethu. Darllenwch yr hyn a ganlyn :—" Ychydig o wythnosau yn ol,'' meddai un, " derbyniais lythyr oddi wrth fy nghyfaill L. H. B., yn fy hysbysu am farwolaeth a chladd- edigaeth ei fab hynaf, bachgenyn gwych a gwrol oddeutu wyth mlwydd oed, yr hwn nid oedd wedi gwybod am ddiwrnod o afiechyd tan y cystudd a'i symudodd o'r byd yma. Cymerodd ei farwolaeth le o dan amgylchiadau hynod o boenus i'w rieni. Yr oedd ganddo frawd ieu- angach nag ef yn wael a thyner er y dydd ei ganed; ac yr oedd yr un nesaf ato o ran oed mewn clefyd trwm; ond am hwn, bachgen hynaf ei dad, dywedai, nad oedd