Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN, Rhif. 3. Mawrtli, 1855. Cyf. VIII. MAM YN ISRAEL. " Nes i mi gyfodì yn fam ynlsrael," Barn. v. 7. Ar fynediad yr Israeliaid i Ganaan, ni ddinystriwyd y cyn-breswylwyr yn llwyr, rhag i fwystíìlod amlhau yn y tir, trwy ei fod heb breswjlwyr ynddo. Ac hefyd hwy a adawyd i brofi Israel, i edrych a gadwent ddeddfau Duw ai peidio. Pe cadwasent hwynt, buasai y Canaaneaid yn cael eu gyru ymaith yn raddol o'u blaen. Ond am iddynt adael eu Duw, a thori ei ddeddfau, bu y cyn- breswylwyr yn ddrain yn eu hystlysau, ac yn fflangell ar eu gwarau am amser maith. Cyn hir ar ol marw Josuab, yr ydym yn darllen am Israel yn annghofio Duw, ac mewn canlyniad i hyny rhoddid hwy yn aml yn llaw eu gelynion, y cynbres- wylwyr, fel y cawn weled yn hanes y Barnwyr, o Othniel hyd Samuel, yspaid o gylch 317 o flynyddau. Er iddynt bechu yn erbyn yr Árglwydd, eto, ar eu hedifeirwch a'u hymbiliad, caent drugaredd ganddo: cyfodai iddynt Farnwyr, i'w gwared o law eu gelynion. Tebygol yw bod Samgar wedi marw cyn i heddwch gael ei adferu, fel y gorfyddid y fforddolion i gerdded llwybrau ceimion, nes i Deborah gyfodi yn fam yn Israel. Hi oedd yr ail broffwydes y mae genym ei hanes yn y Beibl, a r unig un a gyfodwyd i farnu Israel. Yn y bennod hon y mae Deborah yn canu am waredigaeth y genedl o law Jabin a'r Canaaneaid. Y mae dynion o chwaeth yn cyfrif y bennod hon y dernyn mwyaf prydferth yn y byd o ran ei gyfansoddiad, a gadael allan ei j sbrydoliaeth. Bellach, ymdrechaf wneyd rhai sylwadau buddiol ar y geiriau hyn, gan olygu yr Eglwys Gristionogol yn Israel Duw yn yr oes hon. I. Yr ANGENRHEIDRWYDD AM FAMAÜ \N YR EûLWYS.