Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 4. S !n Î3S. 1S55. Cyf. VIII. Y BRENIN GEORGE, Blaenor a Phregethwr Cynorthwyol yn yr Ynysoedd Cyfeillgar. Nid oes nemawr i gyfarfod cenadol yn cael ei gynal, na chlywir rhai o'r areithwyr yn gwneyd rhyw gyfeiriad at y brenin cristionogol aenwir uchod. A chlywsom am- bell un o'n brodyr, y pregethwyr lleol, yn ymorchestu ar adegau felly, ger bron canoedd o wrandawyr, fod yn perthyn i'w rhestr hwy bregethwyr o anrhydedd nad allai ein gweinidogion ei hawlio—fod ei fawrhydi George, brenin yr Ynysoedd Cyfeillgar, yn bregethwr cynorth- wyol, ac yn llafurio yn gyson yn y cylch hwnw. Ac er gwneyd ein darllenwyr yn fwy adnabyddus ohono, ni a'u hanrhegwn âg ychydig o'i hanes wedi ei gasglu o weith- iau gwahanol awdwyr. Yr Ynysoedd Cyfeillgar, ar y rhai y mae y brenin George yn teyrnasu, ydynt yn cynwys oddeutu dau gant o ynysoedd, ac yn eu trefn ddaearyddol, yn cael eu dos- ranu yn dair dosbarth. Hynodir y rhai hyn wrth yr enwau Tonga, Haabai, a Vavau. Yr oedd pob dosbarth ohonynt gynt yn ffurfio llywodraeth wahanol. Ar y dos- barth mwyaf deheuol a'r eangaf ohonynt, sef Tonga, y teyrnasai Alea Motua; ar y rhan fwyaf ogleddol ohonynt, sef Vavau, teyrnasai Finau; a Taafaahau ar y rhan gan- olradd ohonynt, sef Haabai. Dychwelwyd y tri brenin hyn i gofleidio cristionogaeth, a chawsant eu bedyddio wrth yr enwau Joshia, Zephania, a George. Y mae y ddau flaenaf wedi marw er's llawer blwyddyn ; ond cyn gadael y byd yma, bu i'r ddau gydnabod George fel eu cyfreithlon etifedd, a gadael iddo ef eu tiroedd a'u pobl, fel eu dylynydd i'r freniniaeth. Ac felly ar y 4ydd o Ragfyr, 1845, gyda llawer o wych-