Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 7. Gorplieiiliaf, 1S55. Cyf. VIII. "DüW PAROD I FADDEU." Yn cctel ei amlygu yn nghadwedigaeth gẁr ieuangc ar wely marw. Gwrthddrych yr hanes byr canlynol, oedd un o'r enw James Williams, o dref yn ngogledd Cymru. Yr oedd yn ŵr ieuangc o dymher addfwyn, yn feddianol ar feddwl cryf, ac yn cael ei hoffi yn fawr gan ei gymdeith- ion ; a phob amser amlygai barch a chariad mawr at ei rieni. Er ei fod yn feddianol ar y rhinweddau hyn, eto yr oedd yn rhy debyg i lawer o bobl ieuaingc y dyddiau presenol, yn hollol ddifeddwl am ei enaid, ac yn edrych ar grefydd gyda gradd o ddiystyrwch. Yn nghylch pedair blynedd yn ol, cafodd le i fod yn ysgrifenydd mewn ariandy yn Le'rpwl, lle y cafodd bob mantais i " gofio ei Greawdwr yn nyddiau eiieuengctid;" er hyny, " rhodio jn nghynghor yr annuwiolion a wnaeth, a byw yn estron i amodau yr addewid." Ar ol hod yno yn agos i dair blynedd, dechreuodd ei iechyd ballu; oblegid hyn gadawodd ei le, a daeth tua chartref, gan feddwl y gwnai newid yr awyr, a rhyddhâd oddi wrth waith, adferu ei iechyd, ac y byddai yn ol wrth ei orchwyl yn fuan. Ond er arf'er pob moddion i'w iachau, yr oedd yn amlwg ei fod yn gwaethygu bob dydd, gan fod y dar- fodedigaeth (consumption) wedi cymeryd gafael yn ei gyfansoddiad, ac yn ei falurio yn gyfiym. Yn y cyfamser aeth hen flaenor parchus i ymweled âg ef; ac ar ol ymddyddan am bethau cyffredin, ymdrechai yn y modd mwyaf hawddgar a mwyn ei ddwyn i feddwl am fater ei enaid, a'r byd tragwyddol; ond ow ! yr oedd ei galon fel adamant; o ganlyniad yroedd yr ymddyddan yn myned yn faich, ac nid yn bleser. Ymwelodd yr un- rhyw âg ef drachefn a thrachefn gyda'r un aflwyddiant. Er fod angeu yn gweithio yn gjfìym ar ei babell bridd-