Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 4. EìBîa-iSl, 185G. Cyf. IX. GAIR O GYFFINIAU Y BEDD. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Wel! ychydig sydd rhyngwyf a bod yn fôd ysbrydol yn y byd anweledig. Byd dyeithr iawn ydyw i mi eto; ond nid oes ond afon rhyngwyf ac ef; ac wedi myned un- waith drosodd, dyna fi wedi hedeg i awyr fawr byd arall, lle y byddaf yn bodoli byth : yn myned rhagof, a rhagof byth, a byth heb gyraedd terfyn fy mordaith. " A bod" fydd fy arwyddair i am oes anfarwol Duw! Bydd cyf- newidiad wedi argraffu ei ddelw ar bethau ereill yn amherodraeth y Duw mawr ; ond byddaf fi yn aros byth wrth golofn sefydlog tragwyddoldeb, ac yn ddigyfnewid fel tragwyddoldeb ei hun ! Gall y bydd gorchwylion y byd yn cael eu cario'n mlaen am filoedd o flynyddau dyfod- ol; ond bydd sylweddolrwydd gorchwylion y byd arall yn gwasgu cymaint o'u pwysigrwydd ar fy ysbryd anfarwol i, fel na fydd y byd a'i bethau yn werth i gael fy meddwl atynt am eiliad. Ond pa faint bynag a fydd parhâd oesy ddaear, y mae hithau i heneiddio a marw : y mae hithau i gael ei phlygu i fyny fel llyfr ; ac fe allai y rhoddir hi i gadw mewn rhyw ystafell yn " nhŷ fy Nhad," i fod fel cofgolofn o fuddugoliaeth cariad; ond beth bynag am hyny, " dy flynyddoedd di ni ddarfyddant :'' " dy flyn- yddoedd di'' yw dy anfarwoldeb annherfynol, a dy an- farwoldeb di yw y deml fawr yn yr hon y byddaf finau yn pabellu, a bydd fy oes i gyd-barhau a dy oes drasfwyddol di! Bydd pethau ereill wedi peidio â bod ; ond y pryd hwnw ni fyddaf fi ond prin wedi dechreu agor fy llygaid ar ryfeddodau aruthrol y bythol fyd digyfnewid. Bydd y dyferyn olaf o'r afonydd wedi rhedeg i'r môr, neu wedi ei leibio gan wres ofnadwy y golosgiad dychrynllyd di- weddaf: ni chlywir mwyach gàn berorol yr eos, yr hon a daflodd ddystawrwydd ar holl feibion a "merched ceidd " y ddaear: na, bydd ei llais swyngar hi, a phob aderyn arall, wedi dystewi byth. Diffoddir y lluserni llachar