Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 7. CÎ-oriíîieiiliíÄf, 1850. Cyf. IX. HENAFIAETHAU DAYYREINIOL. DINYSTR BAEILON. Bu y ddinas hon, gynt, yn un o'r dinasoedd enwocaf yn y byd oll. Hi ydoedd " gogoniant godidogrwydd y Calcleaid." Ysgydwodd ei theyrnwialen, fel brenines falch, uwch ben y gwledydd enwog o'i hamgylch ; a gwnaeth i'r rhan fwyaf o deyrnasoedd y ddaear yraostwng i'w chydnabod hi yn arglwyddes. Galwyd hi yn "dref aur," o herwydd amledd ei chyfoeth, a helaethrwydd ei golud ; ac yr oedd ei maint, ei nerth, ei phrydferthwch, a'i gwychedd, mor annghydmharol, fel yr enillodd y teitl o " ogoniant yr holl ddaear:'' a chymaint ydoedd ei hymffrost, yn ei gogoniant, fel y bu agos iddi ft-ddwl codi ei gorsedd goruwch gorsedd yr Anfeidrol! Ni allodd fyned yn uwch na hyny : na, darostyngwyd hi yn isaf o holl ddinasoedd adfeiliedig y byd, ac eisteddodd "aderyn y bwn " ar ei gorsedd i chwerthin am ben ei balchedd a'i hymffrost, a chawn ninau sef'yll uwch ben ei hadfeilion i synu at ei hanfad gwyaip hi. Ond y mae yn rhaid i ni, yn gyntaf oll, fyned at ei hadfeilion ar hyd y ffordd ag yr aeth hi i adfeilion. Heblaw mai Babilon ydoedd y ddinas enwocaf jn y byd, hi hefyd ydoedd un o ddinasoedd hynaf y byd. Hwyrach mai Thebes, prif ddinas yr Aifft uchaf, a bia y flaenoriaeth yn hyn; ond nid y w Babilon, dinas benaf amherodraeth Babilonia, ond ychydigyn ieuangach na hi. Sylfaenwyd hi gan Nimrod, brenin cyntaf y deyrnas. (Gen. x. 10.) Safai ar wastadedd prydferth afon fawr Euphrates, " yn ngwlad Sinar." Adeiladwyd dinasoedd ercill yn y cyffiniau hyny gan Nimrod ; megys, "Erech, Accad.a Chalneh :" ond Babilon ydoedd y benaf ohonynt. Ymddengys oddi wrth Gen, x. 10, 11, i'r ddinas hon, a Ninifeh, gael eu sylfaenu gan yr un anturiaethwr gwrol, tua'r un amser; ond yr oedd Ninifeh yn brysio yn