Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 3. Mawrth, 185*. Cyf. XI. BYRDRA AMSER, Mae hwn yn destyn hynod o briodol yn y tymor yma o'r flwyddyn, paun bynag a wnelom ai ei ystyried mewrv cysylltiad â'r flwyddyn a aeth heibio, ai mewn rhag-gy- feiriad at y flwyddyn sydd o'n blaenau. " Byr ydyw amser," pan edrychwn yn ol, a meddwl gynted yr aeth y fl. 1857 dros ein penau ; mor gyflym y rhedasom daith blwyddyn o'n gyrfa drwy'r byd terfynedig hwn, fel na feddwn mwyach o'r yspaid gwerthfawr crybwylledig ddim wrth gefn ond y cyfrif sydd raid i rii ei roddi o'r defnydd a wnaethom ohono! " Byr ydyw amser," cofiwn, wrth ddechreu blwyddyn newydd ; ac oni byddwn effro a dyfal iawn, fe lithra hon drachefn drwy'n dwylaw, heb i ni ddal gafael mewn dim sylweddol i'w ddangos noswyl calan nesaf, os byddwn byw i'w weled. Am hyny bydd- wn esgud a diwyd. gan gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. " Byr ydyw amser;" am hyny y mae yr egni mwyaf yn angenrheidiol, fel y byddo ein gwaith wedi ei orphen erbyn y delo y waedd, " Wele, y míie y Priodfab yn dyfod ! ewch allan i gyfarfod âg ef." Fe fydd yn rhy ddiweddar y pryd hwnw i ddechreu meddwl ani ddarparu olew, a thrwsio ein lampau. Os ewyüy8iwn fyned i mewn gyda'r Priodfab, rhaid i ni fod â'n Iwynau vvedi eu gwregysu, a'n lampau yn oleu, yn barod erbyn dyfodiad ein Harglwydd. l'r rhai hyny, a'r rhai hyny yn unig, sef y rhai a fyddant ddiwyd i wneuthur eu hetholedigaeth a'u galwediiíaeth yn sicr, a'r rhai a weithiant tra yr ydyw hi yn ddydd, y rhoddir y cyfarch- iad dedwydd hwnw, " Da, was da a ft'yddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Gan mai byr ydyw amser, rhaid i ni ofaiu yn benodol yn nghylch y pethau mwyaf eu pwys, ac ystyried y rhai hyn yn ol eu canlyniadau. Gwybodaeth o Dduw, ac o efengyl ein Hargwydd Iesu