Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Raiv. 4. lCbrill, 1858. Cyf. XI. GWIRIONEDD ODDIMEWN. flAN y PARCH. T. ÀUBRET. " Wele, ceraist wirionedd oddimewn : a pheri i tni toybod doethineb yny dirgel," Salm li. 6. Mae't geiriau yn gyfarchiad at Drluw. Maent yn rhan o gyfaddefiad a gweildi Dafydd, ar ol ei bechod a'i gwymp cywilyddus gyda Bathsheba. Dangosant ei fod yn meddu ar olygiadau clir am gymeriad Duw, natur gwir sant- eiddrwydd, a phrif ffynon ei bechod ei hun. Mae'r holl Salm yn gyfansoddiad nodedig iawn ; mae yn amlygu amyyffredìon cang a goleu am natur pechod a santeidd- rwydd, a jfordd iachawdwriaeth—amgyffredind, a chy- meryd i'r cyf'rif yr amser tywyll yr oedd yn byw, nas gellir cyf'rif amdano ar un tir ond fod dylanwadau goleuol yr Ysbryd Glàn yn gorphwys yn nerthol ar ei feddwl. Os mynwch brawf o'i amgyffrediad goleu, darllener yr adnodau cyntaf. Sylwch ar ei ddadl am faddeuant—ei unig ddadl—" Yn ol dy drutjarogrwydd." «' Yn ol llu- awä dy dosturiaethau." Nid ei wasanaeth flaenorol, a'i ffydd'.ondeb gynt; nid ei edifeirwch presenol; ond tru- garedd Duw—" lluosogrwydd ei dosturiaethau ;" ei aw- yddfryd dwys ac angerddol am gael ei gwbl lanhau oddi- wrth bechod, oblegid y syniadau dwfn ac arosol oedd ganddo o'i natur ysgeler, y dirmyg mae wedi ei daflu ar gymeriad Duw ac ar grefydd, a'r syniadau a goleddai am ei ífieidd-dra fel drwg moesol. Mae'r oll o'r pethau hyn yn brawf o feddwl dwfn-oleuedig. Ond efallai nad oes un frawddeg yn y Salm ryfedd hon yn dangos meddwl dwfn-oleuedig yn llawnach na geiriau y testyn. Yma ni a gawn lygaid y breniu wedi ymsefydlu, a'i fys wedi ei osod ar yr hyn a allwn ei alw yn arfyniad (demand) tra-