Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 8. Am ÁWfit, 1858. Cyf.XI. YR OEN YN NGHANOL YR ORSEDDFAINGC. " Ac un o'r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla : wele, y Llew yr hwn sydd o Iwyth Juda, Gwreiddyn Da- fydd, a orchfygodd i agoryd y Llyfr, ac i ddattocl ei saìth sel ef. Ac mi a edrychais; ac weie, yn nghanolyr or- sedd-faingc a'r pedwar anifail, ac yn nghanol yr henur- iaid, yr oedd Oen yn sefyll megys wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw wedi eu danfon allan i'r holl ddaear. Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y Llyfr o ddeheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc'' Dat. y, 5, 6, 7. Ein testyn sydd ran o weledigaeth hynod a ganiatäwyd i loan yn ynys Patmos. Yn y rhan yma o'r weledigaeth, y mae pedwar peth yn taro y sylw yn naturiol; sef, Gor- sedd,—un yn eistedd arni,—llyfr seliedig yn ei law,—ac un yn dyfod ac yn cymeryd y llyfr o'i law i'w agor. Wrth yr orsedd yma y deaìlir, eisteddfan yr awdurdod hono ag sy'n Uywodraethu y byd. Yr un a eisteddai ami oedd Duw Dad, fel yn llenwi lle gwreiddiol y Trindod santaidd yn ngweinyddiad y Uywodraeth fawr. Y llyfr yn ei law a arwydda, y mae'n debyg, y cynllun wrth ba un y llywodraethir y byd ;—penderfyniadau Jehofa gyda golwg ar amgylchiadau a chwyldroadau amser, yn neill- duol felly y rhan hono ohonynt ag a ddygant berthynas âg eglwys Crist o dan yr oruchwyliaeth bresenol. Wrth yr un a gymeraiy llyfr hwn i'w agor y meddylir, ein Har- glwydd Iesu Grist, fel Cyfryngwr rhwng Duw a dynion. Felly ni a welwn mai athrawiaeth gyffredinol y weledig- aeth hon yw, Fod Duw yn agor ei amcanion mawr fel Llywydd y byd, trwy gyfryngdod Iesu Grist. Ond ni fydd i ni gyfyngu ein hunain i'r athrawiaeth yna yn neillduol yn awr, eithr cymerwn gylch ychydig mwy