Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 10. Am Hytlref, 185», Of.XI. GWEDDl. Mae gweddi yn ddÿledswydd ag sydd yn cael ei harfer gan ddynion da o ddechreu y byd hyd yr awr hon. Ac nid oes chwaith un dyn da nad yw yn gweddio. " Am hyn y gweddia pob duwiol arnat ti yn yr amser y'th gerfir," Salm xxxii. 6. Un tra chymhwys i wrandaw gweddi yw ein Duw ni, oblegid y mae ef yn gwybod holl feddylfryd calon plant dynion, a'i ewyllys ef yw ein cadw ni, *' heb ewyllysio fod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch," 2 Pedr iii, 9. Gwelwn y draul fawr i'r hon yr aeth ein trugarog Dduw er dyfod â ffordd i rai gwael fel nyni i alw arno, a chael ein gwrando, a thrwy hyny hod byth yn gadwedig; a'r drefn hono wedi dyfod trwy iddo roddi Mab ei gariad ac Oen ei fynwes i farw yn ein Ue. " Yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch a Duw. Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion, a'i gael mewn dull fel dyn, fe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes," Philip. ii. 6—8. Pwy all draethu maint a gwerth y drauli'r hon yr aeth ein Duw i ddyfod â ffordd a threfn fel hyn i'n byd ? Nid mellt yn gwibio, nid taranau yn rhuo, nid tywyllwch yn gorchuddio, na bygythion y ddeddf sydd i'w weled yn y fan yma; nagê, nid achos crynu ac ofni, ond achos llawenydd a gorfoledd; nid achos wylo, ond achos canu. Fe ganodd yr angylion ryw anthem byth gofiadwy ÿ boreu y ganwyd ef. (Luc ii. 14.) A pham na' chanwn ninau ? Mae genym lawer mwy o achos canu nag oedd ganddynt hwy. " Ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch a Duw." Dyma un a'chanddo hawl i fyned i'r Uys uwchaf. Mae hwn hefyd mewn dull fel dyn, ac agwedd gwas arno. Fe all gydymdeimlo â'n holl wendidau ni. Ac fe adawodd siampí o weddi ar ei ol