Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhip. 11. Aím TacliwetUl, 1S58. Cyf.XI. DYSGEIDIAETH Y TADAU. Uchel yw y swn a gedwir gan rai yn nghylcb "y Tad- au.'' Pan fethant à phrofi eu syniadau trwy Ysgrythyr a Rheswm, eu noddfa fawr yw dysgeidiaeth " y Tadau.'' Codant, weithiau, "y Tadau," i gadair awdurdod, a siaradant am eu hysgrifeniadau fel pe baent gyfartal mewn pwys, awdurdod, a grym, íi'r Ysgrythyrau eu hun- ain, Ond yn fwy mynjch, h. y. pan bwysir ar eu gwynt, rhoddant i fyny y tir cableddus yna, a dywedant yn fwy gŵyiaidd fod y Tadau yn byw mor agos i ddyddiau yr Apostolion nes bod o angenrhaid yn fwy hysbys yn ngolygiadau yr apostolion na ni sydd yn byw mor bell oddiwrthynt, ac felly, o herwydd hyn, fod y Tadau yn teilyngu gwrandawiad mor ostyngedig bron a'r apostol- ìoh eu hunain. üyma athrawiaeth benboeth llaw'er yn y dyddiau hyn ; ac ar bwys hon y llafuria liawer hefyd i ddiawdurdodi pob gweinidog cristionogol ond hwy eu hunain, ac i ddieglwyso hefyd pob eglwys arall ond eu cymundeb anmherffaith eu hunain. Ond beth yw yr athrawiaeth yma werth ? A oes rhyw- faint o wiiionedd ynddi 1 Atebwn y cwestiynau hyn yn awr trwy un engraifft flasus o " ddysgeidiaeth y Tadau." Dichon y difyrwn ein darllenwyr eto gydag ereill fel y cawn hamdden. Ond rhoddwn un yn awr. Cymerwn hono allan o ysgrifeniadau Origen. Ganwyd y '*' Tad" cristionogol enwog hwn yn Alexandria, yn y flwyddyn 185, neu'r chweched flwyddyn o deyrnasiad Commodus. Bu am rai blynyddau yn mjfyrio tan ofal Clement; ac yna tan ofal Ammonius Saccas, athraw Platonaidd o gryn fri : gwnaeth ei hun yn hynod o gyfarwydd yn nghyfundreithau athronyddol Plato, Pythagaros, a Zeno. Ordeiniwyd ef yn henuriad gan Thesctistus, esgob Ceserea,