Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 11. Ain Tacliwedd, 1859. Cyf. XII. DIOLCH AM Y CYNAUAF, NEU DRIDIAU YN BEAUMARIS. Aay 4ydd o'r rnis hwn (Hydref, 1859), disgynodd fy nghoelbren yn Beaumaris, Môn. Lle bach digon prydferth ac iachus. Lle bach digon difyr hefyd yn yr haf; ond yn y gauaf—dyna, dyna, rhaid ymattal, canys ynddo gan gofio y mae Mr. Golygydd yn byw. Gan fod genyf i aíos yno ddeuddydd neu dri, dechreuwn ymholi, wrth gwrs, pa beth i'w wueyd, a pha le i fyned. Yn fuan wedi troi allan, heb wybod yn iawn pa le i fyned, gwelwn fod rhyw fywyd mwy nachyffredin yn mhlith pobl y dref. Cyrchent ar hyd yr heolydd yn i'ynteioedd, oll yn eu " dillad parch," chweld pobl y gweithydd, ac oll â'u hwynebau yn yr un cyfeiriad. " Pa beth sydd»yn bod yma heddyw ? " ebai fi wrth ryw un. " 0," ebai efe, "y diwrnod diolchgarwch yw hi." 't Diwrnod diolchgarwch am ba beth ?'' ebai finau. " Am y cynauaf, siwr," ebai yntau, gan edrych arnaf braidd yn amheus. Aethym gyda'r lluaws i un o gapeli y dref. Capel hychan, yn y cefn braidd, ond yn ddigon glanwaith. Yr oedd yn llawn erbyn deg o'r gloch ; a chafwyd yno gyt'- arfod da iawn, debygwn i. ('ynaliwyd y cyf'arfod nm ddau o'r gloch mewn cupel arall yn y dref, ychydig helaethach na'r llall. Ac am chwech yn yr hwyr cafwyd cyfarfod arall mewn capel llawer helaethach fyth, yr hwn a safai yn yr un heol a'r capel y bum ynddo am ddau. Fabyn ymholi deallais mai capel y Bedyddwyr oedd y cyntaf; mai capel yr Annibynwyr oedd yr ail ; ac :nai yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd y buom yn yr hwyr. Deallais hefyd fod capel y Wesleyaid yn awr yn