Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 12. Am Ilhagfyp, 1859. Cyf. XII. SAINT YN BLANT Y GOLEUNI. " Chwyehwi oll, platit y goleuni ydych, a phlant y dydd : nid ydym nì o'r nos, nac o'r tywyllwch." 1 Thes. t . 5. PoBL ddiogel yw holl bobl Duw. Pobl aml eu gelyn- ion, eu peryjjlon, a'u gwendidau jdynt, mae yn wir; ond eto, tra yn bobl i Dduw, pobl ddiogel ydynt. Edrychwn arnynt yn nghanol croesau, stormydd, a siomedigaethau y byd hwn ; pau y sudda ereill, y maent hwy yn ddiogel ynyroll! Ac edrychwn arnyntyn ngwyneb angeu dû, y farn a ddaw, a thragwyddoldeb maith hefyd, y maent yn ddiogel, yn ddiogel o hyd. Pobl ddiogel yw holl boblDduw! Dyma idea yr apostol yn y gwahanran yma o'r llythyr hwn ; diogelwch y saint yw ei bwnc—eu diogelwch yu eu perthynas â clydd y fam. Yn adnodau blaenaf y bennod y mae yn dangos dull dyfodiad " y dycld hwnw" yn ei berthynas û'r annuwiolion diofal ac anystyriol; daw iddynt, medd ef, "fel lleidr yn y nos," adn. ii. Daw'r farn ar yr annuwiolion " fel lleidr yn y nos " mewn dau ystyr. 1. Yn sydyn ac annysgwyliadwy. " Pan ddywedant," medd yr apostol, "tangnefedd a diogel- wch, yna y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarth- af." Ond " daw dydd yr Arglwydd " i'r annuwiol "fel lleidr yn y nos." Yn 2. Er dinystr a gwae. Pan ddelo "lleidr," fe ddaw i ysbeilio a dinystrio ; " felly y daw dydd yr Arglwydd'' i'r annuwiol—daw er dinystr; " canys pan ddywedant, ' Tangnefedd a diogelwch,' yna y mae dinystr yn dyfod ar eu gwarthaf." Dyma fel " y daw y dydd hwnw " i'r diofal a'r diystyr ; ond yn hyn oll y mae y saint—pobl Dduw—yn bobl ddiogel; canys dywed yr apostol, " Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y dydd hwnw chwi megjs lleidr ; chwychwi oll plant y goleuni ydych," &c,