Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Wl N LLAN. Rhif. 5. Am Mai, 1860. Cye. XIII. "I'R DUW NID ADWAENIR." ACT. xvü. 22. Mae pregeth ardderehog Paul yn Areopagus Athen, yn un o'r darnau mwyaf godidog o'i eiddo ag sydd genym ar glawr. A gadael ei ysbrydoliaeth am funud naill du, y mae cyfaddasrwydd nodedig ei ymresymiad ynddi i'r am- gylchiadau neillduol ag yr oedd ef ynddynt ar y pryd, yn ei chodi i dir ucheì iawn fel cyfansoddiad amddiíFynol. Cymerwn y sylw a wnaeth yn yr adran a nodwyd uchod. Y fath fedr ! Y fath nerth ! Cyhuddiad yr Atheniaid yn erbyn Paul oedd, ei iod yn pregethu duwiau dyeithr. " Tebyg yw," meddent, " ei fod yn mynegi duwiau dyeithr, am ei fod yn pregethu yr Iesu a'r adgyfodiad iddynt," Act. xvii. 18. Pwnc yr apostol oedd yr lesu, a'r adgyfod- iad drwyddo. Tybiasant hwythau fod Jesons, " yr Iesu,'' ac Anastasis, "yr adgyfodiad," yn dduwiau newyddion, y rhai y daethai Paul i'w pregethu. Ac yr oedd hyn yn beth o gryn bwys ac o gryn ganlyniad yn Àthen. Yr oedd y meddwl cyffredin yn y ddinas hono wedi myned mor goelgrefyddol unwaith, nes y gwelwyd yn angenrheidiol gosod cyfraith i'r perwyl yma,—Os ceid neb yn euog o hudo y bobl á'u twyllo trwy gyhoeddi duwiau newyddion neu ddyeithr iddynt, hyny yw, duwiau chwanegol at y rhai a addolid eisioes, y cai hwnw ei osod i farwolaeth! Ac yn awr, dyma'r apostol yn cael ei gyhuddo o'r trosedd mawr hwnw. A pha fodd y dichon efe amddiffyn ei hun ? Mae yn mynegi "duw dyeithr " i'r Atheniaid. Mae hyny yn ddigon gwir: ni oddef gwirionedd iddo wadu'r peth, ac am hyny y mae yn addef yn hyf: " Y Duw yr hwn a wnaeth y byd, a'r hyn oll «ydd ynddo," " yr hwn yr yd- ych chwi heb ei adnabod,—hwnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi." Dyma bledio etjog i'r gŵyn yn ei erbyn ! Ond pa fodd felly y ceidw Paul ei fywyd ? Mae Paul yn addof