Symud i'r prif gynnwys

Y WINLLAN Ehif. 10. Am Hydect, 1860. Cyj?. XIII. JOHN BLACEWELL. Y MAE llawer o âdynion yn y byd yn tybied fod bardd- oniaeth ac anwybodaeth yn gymdeithion, a bod cynydd gwybodaeth yn chwalu y rhith a'r dychymygion o feddyliau y bardd. Y inae yn rhyfeddod mor wirioneddol y mae y dychymygion uchelaf yn cyduno â gwir wybodaeth, dargan- fyddiad, gwyddoriaeth. Y mae barddoniaeth Job, Milton, a Goronwy, yn wirìonedd, nid yn unig i'r oes a'r wlad lle ei hysgrifenwyd, ond i'r holl oesau a'r gwledydd, cyn belled ag y gellir ei hystyried yn gydunol â ffeithiau cyffredin. Y mae gwybodaeth yn chwalu y caddug, ac yn goleuo llu- sern sy'n gyru ar ffo gymylau tywyllion anwybodaeth, ac yn arddangos gogoniant sy tuhwnt i allu y dychymyg ci olrhain, neu yr atnrylith grýfaf ei esbonio. Fe ddywed un awdwr enwog, " mai athroniaeth a'r celfyddydau ydynt yr unig bethau sy'n cael eu hefrydu gan yr ychydig o feddyliau uwchlaw y oyffredin, ond bod ffrwythau y dychymyg yn cael eu derbyn gan ddynion o bob dysgrifiad." Y mae y dysgedig a'r annysgedig, y balch a'r difalch, yr hen ar ieu- ainc, yn cael eu swyno wrth ddarllen gwaith y bardd gwir awenyddol. Y mae llawer ysbryd gwrol wedi cael eu deffro wrth ddarllen cân wladgarol, a llawer calon galed a meddwl gorfalch wedi eu meddalhau a'u gweithio i dosturi gan lawer dysgrifiad tarawiadol y mae yr awen wedi ei roddi o gyfyng- der. Y mae y pleserau sydd i'w cael wrth ddarllen gwaith y bardd yn arwain pob dyn yn naturiol i fyfyrio ar yr am- gylchiadau oedd yn nglŷn â helyntion ei fywyd. Yr ydys yn teimlo buddioldeb neillduol, yn enwedìg pan sieryd am dano ei hunan. Pa Gymro, sydd yn meddu gronyn o ddyn- oliaeth yn ei fynwes, all ddarllen llythyrau yr anfarwol Goronwy heb deimlo ei galon yn ymdoddi o'i fewn ? "Y mae yn anhawdd,'' meddai un ysgrifenydd, "i falchder os- twng ei glyboedd tua'r llawr i wrando ar addysgiaeth dyn-