Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN Ritif. 8. Am Awst, 1861. Cyf. XIV. ANERCHIA.D I'R IEUENCTID. 0 HOLii flynyddoedd einioes gyffredin dyn ar y ddaear, mai y rhai blaenaf yw y rhai mwyaf gwerthfawr a manteisiol iddo i unrhyw beth, nid oes neb a wâd. Yn y cyfnod hwn y gwelir bywyd dyn yn ei ragoriaeth uwchaf. Yn yr adeg hon yr ymddcngys ei gyfansoddiad yn ei harddwch a'i brydf'ertbwch mwyaf; bywiogrwydd a chwery yn ei lygaid; ei ruddiau ydynt megys wedi eu haddurno ä rliosynau y dyffryn; tarawiad chwimwtb, ac ysgogiadau diflino, a welír yn ei aelodau. Wrth sylwi arno fel hyn, braidd na ddywedem fod anfarwoldeb yn argrafledig ar ei wedd. I ba betli y priodolwn y rhagoriaethau crybwyll- edig, ond i liyn yn unig, sef mai tymor ieuenctid ydyw y cyfnod gwerthfawroeaf sydd yn meddiant dyn ? Y gyfran hon o'i einioes, os y'i defnyddir i'r perwyl hwnw, ydyw y mwyaf manteisiol iddo feistroli unrhy w orchwyl, celfyddyd, neu bwno, eangu ei feddwl, lledu ei enaid, anfarwoli ei enw; dyma y tymor mwyaf manteisiol iddo i gysegru holl alluoedd oi gortt' a'i enaid i wasanaeth Crist, cyflwyno ei huu drwy ddwyfol gynorthwyon i fod yn blentyn i Dduw, yindiliried ei hun i'w ofal arbenig, a dwyn yr iau arno; ie, dyma yr adeg fwyaf gyfleus ond ei iawn ddefnyddio i fod yn weision ffyddîon, ac yn filwyr dai Iesu Grist, i fod yn otterynau dófnyddiol yn ei law, yn weithwyr difefl yn ui winllun, i deimlo'r iau yn esmwytb a'r baich yn ysgafn, cirio'r groes gyda rhwyddineb, cadw eu hunain ar lwybr eu dyledswydd, gorchfygu gelynion, fel ag i gael ein ban- rhyduddu yn y diwedd â "helaeth fynediad i mewn " i w)nfyd dilyth. Gau byny, 0 ieuenctid, ystyriwch o ddifrif, a goddeí'wch i mi apelio y gofyniad bwn yn y modd dwysaf at eich ystyriaethau, " Pabam yr ydych yn treulio blaen- ffrwyth eich oes i ddyhenion nior ofer, ac i wrthddrychau mor annheilwng ?"—esgeuluso'r fath dymor gwerthfawr, y fath gyfnod anmbrisiadwy, a'r fath adeg gyfleus, i sicrhau