Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 9. Am Medi, 1861. OtJ. XIV. BYR GOFIANT AM GEORGE MORGANS, CYDWELI. Ychydig mewn cymhariaeth o gofiantau am ieuenctid crefyddol sydd i'w gweled. A pha beth ydyw'r rheswra am hyny 1 Yv wyf yn meddwl y gelliil nodi dau beth fel y prif resymau. Yn un peth, nid yw pobl ieuainc o gymeriad gwir grefyddol, ac yn marw yn ddedwydd yn yr Arglwydd, i'w gweled mor gyffredín ag y gellid dy- muiio a dyagwyl. Ac hefyd, y mae lle i ofni nad yw y rhai a geir o'r cymeriad a nodwyd, bob amser yu cael y sylw a'r goffadwriaeth a haeddant. Am fod yr Arglwydd, i ry w ddyben doeth, yn gweled yn dda eu cymeryd ymaith oddiar chwareufwrdd bywyd yn gynar, a chyn cyraedd ohonynt brofiad helaeth, a chyflawni rhyw weithredoedd nerthol, y maent yn fynych iawn yn cael eu gollwng dros gof yn llwyr, ac fel hyn y tnae rhai o'r llinellau bychain dysgleiriaf, a'r cyfeiriadau mwyaf teüwng ac addawol, yn cael eu claddu megys gyda'r corff o glni yn y dystaw fedd. Ond ni ddylai y pethau hyn fod felly. Yr wyf yn mëddẁl am ieuenctid crefyddol, er iddynt farw mewn cymhariaeth yw ddibrofiad, ac heb dori yr un linell amlwg a phwysig iawu mewn bywyd, er hyny y dylent gael eu cofio yn ol eu teilyngdod cymhariaethol yn gystal a'r rhai sydd yu marw wedi cyraeiid oedran peilach ac addfecì- rwydd mwy yn mhethau crefydd. Ond pa fodd byuag, meddyliwyf fod y gŵr ieuanc, gwrthddrych ein cofiant presenol, yn deilwng o goffadwriaeth baichus yn eitì plith, yr hyn hefyd, o dan fendith y Goruchaf, a all fod o les i lawer o ddarllenwyr ieuainc y Winllan. George Morgans ydoedd fab i John a Mary Morgans, Cydweli, ac efe oedd yr hynaf o ddau fab ydoedd gan- ddynt. Cafodd ei anrhydeddu â'r fantais anmhrisiadwy o gael rhieni crefyddol, gofal penaf pa rai oedd ei ddwyn ef a'i frawd i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd." Yr ocdd George yu fachgen iach, cryf, a chwa-