Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN AM IONAWE, 1862. AMSEE. Goechwyl anhawdd iawn ydyw egluro pa beth ydyw amser. Fel y dywedodd Awstin, " Os na of'yn neb i mi pa beth yw amser, gwn yn ddigon da beth ydywj eithr os gofyn rhyw un i mi pa beth ydyw, nis gwn pa fodd i'w egluro." Mae yn hawdd yn y gair a leferir, ond yn anhawdd ei ddeall, ac yn anhawddach ei egluro. Ond er nas gellir egluro pa beth ydyw, eto gallwn ddywedyd ei fod yn rywbeth a gafodd ddechreuad, sydd yn bodoli, ac a wêl derfyn. Mae yn rywbeth a gafodd ei fodolaeth o dra- gwyddoldeb, sydd fel yn nofio ar dragwyddoldeb, ac a gaiff ei ddìwedd yn nhragwyddoldeb. Mae amser yn debyg i long nr y weilgi yn nofio ar dragwyddoldeb, yr hwn a'i hamgylcha o aingylch ogylch; neu fel ynys yn nghanol y môr, yr hwn sydd â'i eirwon donau yn ei gwisgo ymaith, ac yn fuan ni fydd dim i'w weled ohoni. Ganwyd araser pan y dechreuodd Duw greu, ac fe fesurir ei holl fywyd o'r pryd hwnw hyd ddydd y farn, sef "j dydd diweddaf," pryd y bvdd yr angel yn tyngu i'r Hwn sydd yn byw yn oes oesoedd na fydd amser mwyach. Mae amser yn cael ei ddosbarthu yn dair rhan—yr hyn a aeth heibio, yr hyn sydd bresenol, a'r hyn sydd i ddyfod. Ac fe ellir dywedyd am yr hyn a aeth heibio, ei fod wedi ei golli; am yr hyn sydd bresenol, ei fod yn fyr; ac am yr hyn sydd i ddyfod, ei fod yn ansicr. Ond cymerwn olwg byr ar y tri dosbarth hyn o amser. 1. Yr hyn a aeth heibio. Y mae wedi ei golli am byth. Mae'r Beibl yn fynych yn darlunio amser fel yn myned : " Cysgod yn myned hejbio;" " Cysgod yn cilio, ac ni saif." Ac y mae ei ddull yn myned heibio yn cael ei arddangos trwy'r pethau cyflymaf; megys, " llongau buain," "gwen- ol y gwehydd," "eryr yn hedeg at ymborth," &c Mae amser yn myned heibio yn gyflym, ac nid ydyw byth yn sefyll. Fe welwyd cawr y dydd yn sefyll ar ei yrfa, a