Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. AM AWST, 1862. YR YSGOL SABBOTHOL. Mae ysgol yn beth i ddringo o le isel i'r uchelder. Felly mae miloedd yn dringo ar liyd ff'yn yr Ysgol Sabbothol, o step i stnp, ac o radd i radd, o iselder, gwarth, a thrueni, i afael â choron anniflanedig. Nid oedd er's ychydig amser yn ol ond fel hedyn mwstard, y lleiaf o'r lioll hadau, ond erbyn heddyw y niae yn bren mawr, a miloedd lawer o blant Cymru, Lloegr, a pwledydd ereill, í'el adar, yn nythu yn ei changenau. Neu, mae yr Ysifol Sabbothol f'el llong fawr. Y mae yn nodedig am ei chadernid a'i liardd- wch. Nidyw harddwch a chadernid y Great Eastern yn ddim mewn cymhariaeth i hon. Adeiladwyd hon ar draul Brenia y breninoedd, ac y mae wedi ei rhoddi i f'od at wasanaeth ei briodasf'erch yn myd y gorthrymderau. Y mae llwyth gwertlifawr ar ei bwrdd. Plant bychain, canol oed, ac hen bobl ein hardaloedd y w ei llwyth, a phob un yn meddu ar enaicl i fyw byth. Aduysg grefyddol ydyw hwyl- iau y llong, dylanwadau Ysbryd Duw yw yr awelon sydd yn ei gweithio yn mlaen, Beibl Duw ydyw ei llyw a'i chwmpas, yr Arglwydd Iesu ydyw y Cadben mawr sydd wrth ei llyw, yr officcrs ar ei bwrdd ydyw yr arolygwyr, yr athrawon, a'r athrawesau. Y mae y llong yma wedi cymeryd miloedd o longau y blacli prince yn garcharorion, gan ddwyn eu dwylaw yn ewyllysçar i weithio yn myddin Iesu. Mae y llong yma yn tradio i dri phorthladd. Y porthladd cyntaf yw porthladd y codwm mawr. Mae hwn yu fil mwy peryglus na Chronstradt, na Sebastopol. Mae magnelau a batteries y gelyn yn tanio arni yn aml ; ond y mae peroriaeth y morwyr ar ei bwrdd wrth ganu molawd y Tywysog Emmanuel, yn boddi eu swn. Yr ail borth- ladd yw porthladd Seion ar y ddaear; a'r trydydd yw porthladd gogoniant y drydedd nof. Dyma lle mae hi yn dadlwytho yn y diwedd. Darllenais am ruthriad allan y i2