Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. AIT HYDEBF, 1863. Y OYNADLEDD WESLEYAIDD. 18G3. Yr ydym yn arfer cael peth o hanes y Gynadledd fCon- ference) bob blwyddyn yn yr Eurgrawn, wodi ei ysgrifenu yn fedrus gan ryw Gymro mwyn yn dygwydd bod yno o dro i dro, a diau na fyddwn yn ol o ysgrif dda ar Gy- nadledd 18C3, canys yr oedd Golytfydd galluoí* yr Eur- grawn yno ei hnnan: a gallwn fod yn sicr na fu ef yno heb weled, a chlywed, a chasglu digon o ddefnyddiau tuag at barotoi dysglaid flasus i'w ddarllenwyr " mewn amser cymeradwy." Ond y mae lluaws o blant, a rhai o'n pobl hefyd, a'r nacl ydynt yn gallu cyraedd yr Eurgrawn, ond a ddarllenant y Winllan faeh o fis i fis gyda llawer o awyddfryd. Er mwyn y rhai hyn yr wyf finau yn teimlo tuedd i ysgrifenu pennod fach neu ddwy o hanes y Con- ference i'r Winllan ; ond cofied y darllenwyr fod yn rhaid j mi gael fy ííbrdd fy hun gyda'r gorchwyl. Rhaid iddynt bwythau gcisio boddloni ar yr hanes fel y cânt ef. Yn Sheílield, yn YorJisfnre,y cyualiwyd y Gynadledd eleni, ae yr ydwyf am ddochreu yr hancs trwy ddyweyd ychydig AM Y DAITH YNO. Nid oes achos i mi ddyweyd pwy ydwyf, a beth yw fy enw, hyd nes byddaf wedi gorphen yr hanes ; ond yr wyf agos yn siwr y dyfala llawer pwy ydwyf, pan ddywedaf mai yn A—g—y y ccfais y train i ddcchreu y daith, ac mai fy route oedd Hcrcford, Worcester, Birmingham, Derby, Chesterficld, Slieffield. Yr oedd genyf brou saith milldir i'w cerddod erbyn 7.50 yn y boreu; ac wrth gwrs yr oedd yn rbaid codi yn foreu iawn. Ond cr gwneyd hyny, a cherdded yn ddyfal iawn, nid oedd genyf funud o amser yn spare erbyn cyraedd y railway station ya A—g—y. Boolúais oddiyno i Birmingham i ddcchreu,