Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

181 YE AEWEES IEUANC 0 SIBEEIA. Pennod I. »N o'r chwedlau mwyaf dyddorol a ysgrifenwyd eriöed yw Elizabeth, vr the Exiles of Siberia. Yr ydoedd o gynyrchiad pin Madame Cottroi, awdures Ffrengig enwog; a darÛenwyd yr hanes ynhollieithoedd Ewrop, yn enwedig gan bersonauieuaiac. Er yn ysgrifcnedig ar ddychymyg {fiction), eto y mae yn codi oddiar ffaith a gymerodd le yn nheyrnasiad Paul y cyntaf, Amherawdwr Ewsia, yr hwn a fu farw yn y fiwyddyn 1801. Bwriadem draethu yr hanesyn yn hollol fel y dygwyddodd. Enw gwirioneddol yr arwres ieuanc hon ydoedd Prascoyie Lop- ouloff. Ei thad, yr hwn a hanai o deulu enwog, a anwyd yn Hungary, lle yr ydoedd hap bywyd wedi tueddu i'w deulu drigo. Yn foreu mewn bywyd ymunodd Lopouloff mewn gwasanaeth yn y fyddin Awstraidd; ond ar ol priodi boneddiges Ewsiaidd, gadawodd Awstria, a mabwysiadodd wlad yr oiaf fel ei gartref. Ar ol byw yn breifat gyda'i wraig am beth amser, ail-ymgymerodd â'i ddyledswyddau cyntefig, a bu am amryw flynyddauyn gwasanaethu mewn rhyfel-gyrchoedd gyda'r fyddin Ewsiaidd yn erbyn y Twrc- iaid; a mawr yr enwogodd ei hun yn rjgwarchaeadau (sieges) Ismail ac Otchakoff, £el y derbyniodd ganmoliaeth uwch nag hyd yn oed ei gadlywyddion. Yn mhen amser ar ol ei ddychweliad o'r rhyfel-gyrchoedd hyn, daliwyd Lopouloff, profwyd a chondemniwyd ef i alltudiaeth am ei oes yn Siberia. Ni wyddis eto beth oedd ei drosedd, gan fod y llys, yn yr hwn ei profwyd, yn cael ei ddwyn yn mlaen mewn dirgelwch mawr. Modd bynag, er i Lopouloff wneuthur apeliadau am liniariad o'r ddedfryd, y rhai a ddiystyrwyd, anfonwyd ef a'i wraig, a'u baban, yn nghydag amryw garcharorion ereill, í'r rhanbarth a ddewiswyd fel eu trigle alltudol. Mae Siberia, fel y mae yn wybyddus i luaws o'n darüenwyr ieuainc, yn cynwys, nid yn unig rhan o Ewsia, ond hefyd yn fwy na'r drydedd ran o Asia ; ac mae yn 3,500 o fìUdiroedd o hyd, a 1,200 o led. Mae yn un o'r ardaloedd oeraf a mwyaf annymunol yn yr hoU fyd; a thrwy hyn dewiswyd rhanau o'r wlad eang yma gan yr aristocrats Ewsiaidd fel sefydliadau aUtudol i ddrwgweith- redwyr. Gorfodir rhai o'r troseddwyr i weithio mewn mŵn- gloddiau, ereiU i lafurio y tir, ac ereül i ddyoddef alltudiaeth oddiwrth bob cymundeb â'u teuluoedd a'u cartrefau—heb orfod ymgymeryd âg unrhyw ran o waith. Cospir hwynt yn ol maint eu troseddau, ae anfonir hwynt i'r parthau oeraf a mwyaf dymunol ~-pob un yn ol maint ei drosedd. Derbynient bension oddiwrth y Llywodraeth; hyn hefyd yn ol maint y trosedd a gyflawnwyd, ond nid yw y tal mwyaf ond prin ddigon î gynal corff ac enaid yn K Hydsef, 1872.