Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

221 BBENIN TOSTUEIOL. f AE Leopolstadt yn un o faesdrefi Vienna, o'r hyn leiaí' yr oedd felly, ac yr oedd hefyd yn un o'r rhai mwyaf poblog a phwysig. Gwahenid hi oddiwrth Yienna gan gangen o'r afon Danube, yr hon a groesid er myned a dyfod drwy gyfrwng pont gadarn ao ardderchog. Yn nheyrnasiad yr Amher- awdwr Prancis II. gwnaeth auaf caled iawn. Rhewodd yr afon i fyny. Dylynwyd hyny gan ddadmeriad neu ddadlaith sydyn. Ar hyny, cododd yr afon mor uchel, nes gorchuddio y cei, a llenwi yr heolydd. Ond nid dyna'r drwg mwyaf; canys daeth y rhew i lawr yr afon yn dalpiau mawrion ; dechreuodd y rhai hyny sefyll yn erbyn colofnau y bont; yn y man cynyddodd y pwysau i'r fath raddau nes ysgubo y colofnau ymaith, ac yna syrthiodd y *"%