Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T WINLJCAN Rhif. 3.] MAWBTH, 1885. [Cvf. XXXVIII. ARGLWYDD BACON. "J^N mjsg yr athronwyr mawr dyfnddysg ac anferth eu gwybodaeth sydd wedi ac yn dylanwadu a llywod- raethu meddyliaa dynion, y mae enw Arglwydd Bacon yn sefyll yn oruchel. Wrth ddarllen hanes ei fywyd, y mae rhai dygwyddiadau yn dyfod i'r golwg nas gall y dar- llenydd lai na theimlo eu bod yn frychau hyllion ac annilea- dwy ar ei gymeriad ; ond y mae hefyd gymaint o'r byn sydd yn wir fawr ac ardderchog ynddo fel athronydd a dysgawdwr moesol yn ein cyfarfod drwy ei oes, nes ein dwyn at ei draed mewn edmygedd a pharch ac ymostyngiad mawr. Ond, wrth gwrs, nis gal^wn ni yma roddi ond ychydig o ffeithiau o'i hanes ger bron ein darllenwyr. Ganwyd Francis Bacon, yn Tork House, Strand, Llundain, Ionawr 22ain, 1560. Mab ydoedd i Syr Nicholas Bacon, un o weinidogion urddaBolaf a galluocaf y Frenhines Elizabetb, i'r hon yr ydoedd yn Lord-Jceeper of the Great Seal; a bu efe yn