Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y wriiLAr; Bhif. 6.] MEHEFIN, 1886. [Cyf. XXXIX. Y GWIR ANRHYD. W. E. FORSTER. ^YDD Llun, EbriH 5ed, 1886, ar ol cystudd maith a phoenus, bu farw y Gwir Anrhydeddus W. E. Forster, A.S., er galar a cholled i gylch mawr o gyfeillion ac edmygwyr drwy y Deymas, ac yn ddiau er colled fawr i'r wlad a wasanaethodd mor ffyddlaŵn a da am nifer o flynyddau. Ganwyd William Edward Forster yn Bradpole, Swydd Devon, yn y flwyddyn 1818. Disgynai o deulu parchus o Grynwyr (Quakers), neu Gyfeillion (Friends), fel yr hoffent hwy gael eu galw. Bu farw William Forster, ei dad, yn Temverse, America, yn 1851, lle y bu yr hen wr am lawer o flynyddoedd yn pregethu yr efengyl, ac yn ymdreulio yn achos rhyddhad y caethion. Edrychai bob amser ar ei fab William Edward, fel gwr ieuanc gobeithiol, a chredai y byddai yn ddyn defnyddiol yn ei oes. Eithr prin y gallasai yr bên wr ragweled y byddai i'r mab hwnw gael ei ddyrchatu, yn