Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

41 Y PAECHEDIGION DE. HANNAH A JOHN SCOTT. tAE angeu yn ein mysg ! Ydyw wir, mae yr " hen elyn " weäi myn'd i blith pendefìgion ein pobl, ac wedi tori i lawr wŷr grynrus a nerthol. Yr oeddem yn gobeithio y buasai yn ymdawelu am ycbydig wedi cael ein Attbrey anwyl i lawr. Oeddem, oeddem; ond dyma ni wedi ein siomi ! Tra yr oeddem yn ceisio cymodi â'r ffaith boenus fod yr athrylithgar Aubrey yn ei fedd, " un arall a ddaeth " gyda'r newydd trwm í'od yr hen batriarch, y Dr. Hannah, wedi ein gadael; a " thra yr oedd hwnw yn llefaru, un arall hef^-d a ddaeth, ac a ddywedodd," John Scott nid yw, gan i Dduw ei gymer- yd ef! " It never rains hut it pows" nid yw hi byth yn gwlawio heb dywallt, ebai yr hen ddiareb. Wel, nid oes genym ond gobeithio fod y gawod drom drosodd. Attal dy law bellach, angeu ! Dylai y fath aberthau anhawdd eu rhoddi, liniaru dy lidiogrwydd am amser. COLEG MDSBTTET A DE. HANNAH. Yn y Gynadledd Wesleyaidd gyntaf a gynaliwyd erioed, yn yr henFoundry, ynyfì. 1744, gofynodd Mr. Wesley, " A allwn ni gael ysgol i'n llafuiwyr ?" Yr atebiad oedd, " Os bydd i Dduw ein harbed hyd Gynadledd arall." Yn ganlynol, yn y Conference nesaf, ail ofynwyd y cwestiwn, " A allwn ni gael ysgol i'n llafurwyr yn awr ?" Ateb, " Dim hyd nes'y bydd i Dduw roddi Tutor i ni." Wel, fe roddodd Duw i ni athraw—Duw a'i rhoddodd—yn mherson De. John Hanm-ah. Treuliodd dair blynedd ar ddeg far ugain fel athraw duwinyddol, heblaw ugain mlynedd yn y gwaith teithiol. Bu canoedd lawer o ddynion ieuainc o dan ei ofal, a'r " dydd mawr " yn unig a ddengys faint o les a wnaeth. Meddai bob cymhwysder i lanw ei swydd bwysig—duwioldeb dwfn, ysbryd add- fwyn, a meddwl mawr wedi ei ystorio yn dda â gwybod- aeth dduwinyddol. Y fath fantais i ddynion ieuainc oedd cael gwrando ar ei ddarlithiau annghymharol, abywo fewn cylch dylanwad ei fywyd prydferth. Y Gynadledd ddiweddaf rhoddodd ei gadair i fyny i'w olynydd, y Parch. W. B. Pope, a mynwesid gobaith y buasai yn cael byw flynyddoedd_ i'n lloni â'i bresenoldeb, a'n gwasanaethu â'i gynghorion gwerthfawr. Siomwyd dysgwyliadau ei gyfeillion. BoreuSul, Ehagfyr y 30ain, hedodd ei ysbryd e Mawäth, 1868.