Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

81 GALLTJ CEIST I GYDYMDEIMLO. rYWED yr apostol Paul yn ei lythyr at yr Hebreaid, " Canys nid oes i ni archoffeiriad heb fedru cyd-ddy- oddef â'n gwendid ni; ond wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninau." Heb. iv. 15. O'r fanynayr ydym yn casglu fod Crist yn gallu eydymdeimlo â ni yn ein holl arogylchiadau, a hyny oddiar wybodaeth brofiadol o'n oefyllfa. Mae teimlo, a chydymdeimlo yn wahanol i'w gilydd; er fod y blaenaf yn gynwysedig yn yr olaf, •to, mae yr olaf yn cynwys rhywbeth sydd yn ddyeithr i'r blaenaf. Mae yn bosibl amlygu teimlad dwys tuag at un mewn amgylchiad cyfyng, heb gydymdeimlo y gronyn lleiaf âg ef yn yr amgylchiad hwnw. Mewn trefn i un feddu ar y gallu i gydymdeimlo âg arall mewn cyfyug- der, rhaid fod yno gyffelybrwydd amgylchiadau. Er eng- raifft: golyger fod ei mawrhydi y frenines Victoria, yn talu ymweliad â Chyniru, ac wrth fyned heibio mewn ar- dal wledig, ei bod yn canfod gwraig dlawd yr olwg arni wrth ddrws bwthyn llwydaidd ar fin y ffordd. Ar ol gor- chymyn i'r gyriedydd aros, geilw y wraig dlawd ati, a gof- ynaiddi, "Aydychyn dlawd P" Ateba hithau yn wyl- aidd, " Ydwyf, yr ydwyf yn dlawd iawn." Ond nid oes dim arwydd cydymdeimlad yn nghalon y foneddiges sydd yn y cerbyd â'r wraig dlawd, canys ni ŵyr Victoria betìi ydyw bod yn dlawd ei hunan. Ond chwanega y wraig, " Yr ydwyf yn dlawd iawn, canys cefais golled fawr trwy i fy mhriod ffyddlon farw, am gadael i yn weddw a chwech. o blant bach amddifaid." Yn y fan, lleinw llygaid y bendefiges gan ddagrau, a gwelir arwj'dd eglur o gyd- ymdeimlad; oblegid os na ŵyr Victoria beth ydyw bod yn wraig díawd, gŵyr o'r goreu beth ydyw bod yn wraig weddw; ac felly, er na fedrai gydymdeimlo a'r wraig dlawd, geill yn hawdd gydymdeimlo â'r wraig weddw, eanys mae yn wraig weddw ei hunan. Yn y darlun yna, «anfyddwn mai ffynonell cydymdeimlad ydyw cyffelyb- rwydd amgylchiadau sefyllfa y naill, i amgylchiadau a «efyllfa y llall. Wrth edrych ar Grist, gwelwn ei fod ef oddiar gyffelyb- rwydd amgylchiadau yn gallu cydymdeimlo à ni, canys Efe a fu yn mhob peth " yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlawn." Heb. ii. 17, Yn awr, bethbynagydyweinhamgylchiadauni; oscael ein fterlid, ein temtìo, a'n gwawdio; os ynlluddedig, newya» Mai, 1868.