Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

181 BULU A BUBOTU Y FFLTIAID. ŴrtuLU ydyw yr enw a roddir gan y Ffijiaid ar breswyl- dj|j fod eu duwiau, ac eneicuau neu ysbrydoedd eu ^meirw. Dywedant pan ddygwydda eu duwiau fod mewn tymer lled anffodog, eu bod yn arferol â chymeryd dynion byw i fyd yr ysbrydoedd yn groes i'w hewyllys. Ond er iddynt gael eu cymeryd felly, y mae gobaith am- danynt; oblegid os bydd i gyfeillion yr ymadawedigion gyflwyno anrhegion priodol i'r duwiau, maent yn cael eu traed yn rhyddion, ac yn dychwelyd yn ol i'r ddaear. Felly, pan y byddo rhyw un ar goll, mae y brodorion ar unwaith yn ymofyn â'r duwiau, o dan y dybiaeth eu bod wedi eu trosglwyddo i Bulu. Preswylfod perthynol i'r duwiau hefyd yw Btjbotu, a dywedir ei fod yn lle tra dymunol. Dyma nefoedd y Ffijiaid. Os bydd un o'r brodorion yn dymuno gwneyd yn hysbys ei fod yn ddedwydd iawn felly, dywed wrthych ei fod yn teimlo fel pe buasai yn Burotu. Dywedir fod Sabi, duw Nayau-Kumu, Ovalau, wedi ei eni yn y nef- oedd. Adroddir y traddodiad canlynol amdano:— Yr oedd rhai o bobl IawayeM ar ymweliad âg Ovalau; a darfu i un o'u nifer, o'r enw Bavovo, gyfarfod â Tinani- vatu, gwraig brydferth odiaeth, harddwch yr hon a ddeth- lid trwy y wlad o benbwygilydd. Mentrodd i sisial geir- iau cariad yn nghlustiau y rhian dêg, a chafodd allan nad oeddent 301 annerbyniol ganddi. Oytunasant ar gynllun i ddianc ymaith, a chariasant ef allan hefyd, yr hyn nas gellir ei ddyweyd am bob cynllun wnaed erioed. Darfu i'r Guaniaid ddychwelyd adref gyda'r briodferch. Ond tarawyd Takala, tad Eavovo, gan brydferthwch y wraig ddyeithr fel y bu raid iddo ei chael hi ei hunan. Daeth Tatala yn hoff iawn ohoni, ac wrth gwrs, gyrodd hyny ei wragedd ereill i deimlo yn dra eiddigus. Wel, yr oedd hyny yn ddigon naturiol. Un noswaith aeth yr holl wragedd i bysgota wrth oleu- ni ffaglau. Crwydrodd Tinanivatu oddiwrth y cwmni. Gan fod y llanw yn dyfod i fyny, trôdd tua'r ysbotyn y îûeddybai y byddai y canŵs wedi eu hangori, mewn trefn igael cychwyn tuag adref; ond ar ol cyraedd i'r fan y dylasai gyfarfod â'i chyfeillion, cafodd allan eubod wedi ei tawyllo hi, trwy yru polion i'r dwfr dwfn, a gosod eu ffagl- au ar eu penau. Gwaeddodd, ond nid atebai neb. Ar y K HYDREF, 1868.