Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CI-ADDOLIAD. §AK y gyfraith yr oedd y ci yn cael ei gyfrif gan yr hen Hebreaid yn anifail aflan, ac edrychent arno gyda'r adgasrwydd mwyaf; ond y mae yn ymddangos fod rhai hen genedloedd yn ei addoli. Yn y modd hwn, yn 2 Bren. xvii. 31, ni a gawn son am eilun o eiddo'r Afiaid, a elwir Nibhaz, yr hyn medd yr esbonwyr Hebreig a arwydda gyfarthwr; a dywedant hwy fod yr eilun wedi ■ei wneyd ar lun ci. Oafwyd olion o eilunaddoliaeth gyffelyb yn Syria mewn amseroedd diweddar. Yr oedd Anubis, un o hen dduwiau yr Aifft, yn cael ei arddangos fel eilun gyda phen ci; a'r fath oedd y parch a dehd iddo fel yr adeiladwyd dinas iddo, ac y galwyd hi Cynopolis, neu Ddinas y Ci. Mae Syr Gardiner Wìlldnson, yn ei " Manners and Customs ofthe Ancient Egyptians" yn dy- weyd, "Yr oedd gan yr Aifftiaid amryw fathau o gẃn, rhai i hela, rhai yn gymdeithion yr ystafell neu y rhod- feydd; a dewisid yno rai, fel y gwneir yma, yn unig am eii bod yn hyll. Edrychid arnynt oll gyda pharch mawr, a chyfrifid marwolaeth ci yn gymaint o anffawd, fel y galerid amdano gan bob aelod o'r teulu yn mha un y cy- merai yr amgylchiad le." Dichon y talai yr Aifftiaid fwy o barch i'r ci am eì fod yn arwyddlun o Sirius, Seren y Cì, yr hon mor fuan ag y cyfodai uwchlaw y terfyngylch, a gyhoeddai fod gorlifiad y Nilus gerllaw. Mae y ci yn cael lle pwysig iawn yn nhraddodiadau y llwythau Gogleddol, gan yr ystyrir ef, yn enwedig gan yr Esquimaux, yn ol yr hanes a roddir gan Eranhlin a Parry, yn gystal a morwyr gogleddol ereill, fel tad y teulu dynol. Yr oedd gan yr Indiaid Chippewaidd draddodiad eu bod hwy wedi hanu o gi; ac oherwydd hyn, nis gallentfwyta o'i gig, nac edrych ar neb araU yn gwneyd. Yn yr holl achosion hyn, y mae yn dra thebyg mai arwyddlun yw y ci o'r haul. Mae syniad rhyfedd yn mhlith trigolion Greenland, mai yr achos o ddiffyg ar yr haul yw, ei fod yn cael ei ymlid gan ei frawd y lleuad. Yn ganlynol, pan ddygwyddo diffyg, y mae y gwragedd yn ymaflyd yn nghlustiau y cŵn, fel anifeiliaid oedd yn bod o flaen dyn, ac eydd yn gwybod mwy ani y dyfodol na dyn; ac os na waeddent dan yr oruchwyliaeth hono, cyfrifant hyny yn brawf sicr fod diwedd y byd wedi agosau. Yn Japan, y mae y trigolion yn dangos parch ofergoelus ì gŵn. Eel hyn y dywed Picart, yn ei " Beligious Cere- ° j. Tachwedd, 1868.