Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

" CANYS PWY A DDIYSTYEODD DDYDD Y PETHAU BYCHAIN ?"—Zech. iv. 10. §r oedd y proffwyd Zechariah yn blodeuo yn amser adeiladiad yr ail deml; ac un o brif amcanion ei weinidogaeth ef ac Haggai ydoedd calonogi y bobl gyda'r gwaith mawr hwnw. Ceisiai gelynion yr Iudd- ewon attal y gwaith, a digaloni y gweithwyr. Haerent fod y gwaith yn ormod i boblach mor anfedrus a gwein- iaid allu byth ei gwblhau. Eithr sicrheid y proffwyd, gan yr Arglwydd, j dygid y gwaith i ben ; acyn yrolwg broffwydoliaethol ar y gwaith mawr hwn wedi ei orphen yr ysgrifenwyd y geiriau sydd yn benawd y llinellau hyn. Awgrymir yn y gofyniad uchod fod diystyru peth- au bychain yn ymddygiad annoeth. Yn y llinellau dy- lynol cymerir yr awgrym hwn fel yn cynwys gwirionedd cyffredinol, ac amcenir dangos fod yn cumseth diystyru petliau bycìiain. I. Canfyddir hyn, os ystyriu fcd llawer o BETHAU BYCIIAIPT YN GWNEYD PETIIAU MAWR. 1. Gioelir hyn yn y greadígaeth ddifywyd. Llawer o fân dywod sydd yn ífurfio holldraethan'r byd. Ffurfir gwas- tadeddau eang gan j mân-ronynau a nofiant yn nyfroedd afonydd mawnon. Canfyddir hyny os edrychir ar eneu- au yr Amazon, y Mississij^pi, y Nile, y Ganges, yn nglryda holl brif afonydd y byd. Edrycher ar y modd y mae y ddaear yn cael ei dwfrhau, a holl lynoedd ac afonydd y byd yn cael eu fiürfìo. Oyfodir eu holl ddyfroedd jTn fân- ronynau mor fychain fel nas gallai y llygaid noeth eu canfod. Nid yw y mynyddoedd uwchaf yn y byd, ie, y ddaear ei hun, ond un crynswth o fân-ronynau. 2. Gwelir yr un gwirionedd yn cael ei arddangos yn y byd üysicuol. Nid yw y gwenith a'r rice ond gronynau a " Ionawr, 1870.