Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CALON EANG YN FANTEISIOL I GADW GOECHYMYNION DtTW. t« Ffordd dy orefaymynion a redat, paa eangech fy nghalou."—Salm xix. 32. 9fW[^E yn wirionedd digon adnabyddus i bawb sydd *j|||i wedi arfer à sylwi tipyn ar weithredoedd y meddwl ^^ dynol, fod gwahaniaeth dirfawr yn nbeimladau dyn- ion gyda golwg ar gyfraith Daw. I rai y mae " ei gyf- raith ef" yn faich; eithr i ereill y mae yn hyfrydwch ealon. Iaith y dosbarth blaenaf yw, " Baich gair yr Arglwydd," Iaith yr olaf yw, ': Mor gu genyf dy gyf- raith di!" Mae yr achos o'r gwahaniaeth mawr hwn yn y galon. Mae calon lygredig yn elynol i gyfraith Duw; eithr y mae calon sanctaidd yn ei hofíì. Iaith Ysbiydol- iaeth am y naill yw, " Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedig î ddeddf Duw, oblegid nis gall chwaith." Eithr ei iaith àm y llall yw, " Syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw." Yr oedd y gwirionedd hwn gerbron y Salmydd pan yn ysgrifenu y geiriau sydd wrthben y llinellau hyn. Teimlai y byddai cael calon fwy eang yn fanteisiol er ei alluogi i gadw gorchymynion Duw. Diau fod gan y Salmydd galon eang mewn cymhariaeth i galon yr an- nuwiol; ond teimlai y byddai meddu mwy o'r earigder calon hwnw yn rhwyddhau ei ffordd i gadw gorchymyn- ion ei Dduw. Bydd i ystyriaeth briodol o'r hyn a gynwys calon eang ein galluogi i weled cywirdeb dadganiad y Salmydd yn yr ymadroddion dan sylw. I. CYNWYS CALOîí EANG FEDDWL GOLEUEDIG. Nis gall dyn cyfyng ei ddeall feddu calon eang iawn; oblegid mae y cyfryw yn rhwym o fod yn rhagfarnllyd eì ysbryd, ac oherwydd hyny nis gall fod ei galon yn eang. Dynion goleuedig eu meddyliau oedd y dynion eangaf eu calonau a welodd y byd erioed. Ceir engraifft ardderchog o hyn yn Paul. Pwy mor eang ei galon ag apostol mawr y cenedloedd ? a phwy yn fwy goleuedig ei feddwl ? Ond goddefer i ni ddisgyn 'i fanylion, er ceisio dangos gwir- ioneddolrwydd y gosodiad syád yn benawd ein hysgrif. 1. Mae syniadau goleuedig am eangder llywodraeth Duw yn fanteisiol er cadw ei orchymynion ef. Nid oes L Rhagpyr, 1870»