Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

21 ANIFEILIAID Y BEIBL. II.—Y Cl. Nid oes yn mhlith anifeiliaid un mwy adnabyddus ac yn dwyn cysylltiad agosach ag amgylchiadau dyn na'r ci; ac y mae yn ddi- amheu y gellir dyweyd nad oes unrhyw anifail wedi profì ei hun mor dra chyfeillgar i a hoff o ddyn yn mhob oes ac yn mhob gwlad. Y mae yr ysgrifenwyr gereu wedi arfer eu dawn, mewn rhyddiaith a barddoniaeth, i osod allan ragoriaethau a neillduolion yr anifail dyddorol hwn; a cheir yn mhob gwlad o dan y nef oedd o'r bron adroddiadau nodedig am gallineb a serchogrwydd, ie, a gwasanaeth y ci, a hyny o dan yr amrywiaeth mwyaf o amgylchiadau. Yn y Beibl yr ydym yn cyfarfod â mynych grybwylliadau am y ci, ac mewn llawer engraifft y mae cyfeiriad ato yn dra dyddorol. Enwir ef agos ddeugain o weithiau yn y gyfrol ysbrydoledig, a hyny bron bob tro gyda mwy neu lai o wawdiaith. Darllener 1 Sam. xvii. 43 ; 2 Sam. iii. 8, ix. 8, xvi. 9 ; Esaiah bxvi. 3, &c. c Ch^feoe, 1875.