Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

41 ANIFEILIAID Y BEIB'L. III.—Y LLWYNOG. Cymerwn ein hamdden y tro hwn i ymgomio ychydig am anifail hynod o'r adnabyddus o ran ei enw i ni, sef y Llwynog. Nid yw y crybwyllion yn y Beibl am y Llwynog yn lluosog. Ym- ddengys fod dau fath o lwynogod, neu yn hytrach ddau enw yn cael eì roddi ar lwynogod yn yr Ysgrythyrau, hyny yw yn y wreiddiol, er mai un enw, sef llwynog, a ddefnyddir yn ein cyfìeithiad ni. Un enw ydyw shual, yr enw cyffredin am yr anifail hwn ; y llall ydyw iyim (a ddefnyddir yn y rif luosog), mewn cyfeiriadat jjacJcal. Eglur ddigon ydyw oddiwrth yr hanes a,.«eir am Samson a'r llwyn- ogod, yn Barnwyr xv. 4, 5, fod yr anif eüiaid hyn yn lluosog iawn yn rhai parthau o Judea, oblegid fe ddaliodd Sam«on dri chant o honynt, ac a'u defnyddiodd i losgi ydau, gwinllahoedd, ac olew-wyddau y Philistiaid. Nad oes dim anghywir yn yr adroddiad hwn am luosog- rwydd Uwynogod a brofìr oddiwrth y ffaith fod gwledd Ceres, a ddathlid yn'flynyddol yn Rhufain tua chanol Ebrill, yn cael ei hynodi trwy^rwymiad nifer fawr o lwynogod wrth eu cynffonau, a pha rai a daniwydj a gyrid yr anifeiliaid o gwmpas y circus jn ffiamio felly» D Mawrth, 1875>