Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

n\ ANIFEILIAID Y BEIBL. Ml.-^MMÌT. Y mae sarff yn anifail digon adnabyddus o ran enw, ac, ysywaeth, y mae enwi yr anifail erchyll hwn yn periini yn amlarswydo; oblegid y sarff a ddefnyddiwyd gan y diafol i demtio ein rhieni cyntaf, a gwyddom am y trueni mawr a ddilynodd hyny ar'bawb o'r hil ddynoL Y mae mwy nag un math o sarff yn cael ei chrybwyll yn y Beibl. Tybir fod cyfeiriad at rywogaeth nodedig wenwynllyd o seirff yn Gen. xlix. 17, Uey dywedir, " Pan fydd sarffary ffordd, a neidr ary llwybr; yn brathu sodlau y meirch, fely syrthio y marchog yn ol." Gorwedd- ant ac ymguddiant yn y tywod ac yn rhychau olwynion, a brathant sodlau ý meirch, a'r cyfryw ydyw yr effeithiau yn uniongyrchol, fel y mae coesau yranifail yn myned ynhollol ddiffrwyth, ac ynymollwng o dan y marchog, yr hwn asyrth ar ei gefn. Y mae y math hwn o seirff yn gyffredin iawn yn Arabia y dyddiau hyn. Yn Numerixxi 6—8 sonir am "seirff tanllyd," y rhai a frathasant y bobl, fel y bu feirw Uawer o'r Israeliaid. Ymddengys fod yi' enw hwn wedi ei roddi arnynt oherwyddeu lliwfflamgoch; oherwydd hyn y gosòdwyd i fyny sarff brês, ar ba un yr oedd yr Israeliad brath- H GORPHENAF, 1875.