Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

141 ANIFEILIAID Y B E I B L. VIII.—Y GIGFIUN. Y crybwylliad cyntaf a geir yn y Beibl am yr aderyn hwn ydyw yr un niwyaf äyddorol, sef mewn cysylltiad â'r diluw. Yr oedd Arch Noah yn gorphwys ar fynyddoedd Ararat, ac yr oedd y dyfroedd wedi myned a threio hyd y ddegfed mis, pryd y gwelwyd penau y mynydd- oedd gyntaf. "Ac yn mhen deugain niwrnoä yr agorodd Noah ffenestr yr arch a wnaethai ef e. Ac ef e a anf onodd allan gigf ran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfrotdd oddiar y ddaear." Paham y gigfran ? Oherwydd ei bod yn ym- borthi ar gyrff marw; a gwyddai Noah pe na ddychwelai y gigf ran, fod y dyfroedd yn dechreu cilio, gan adael y cyrff ar ol. Creadur du, trymaidd, pruddaidd yr olwg arno, ydj^w y gigfran ; trigant ya gyplau, a hoffant unigedd. Yr oedd yr aderyn hwn yn aflan o dan y gyfraith CLev. xi. 15). Un peth hynod yn y gigfran ydyw ei bod, pan ar wledda ar gorff, yn dechreu gyda'r llygaid. Ac y mae cyf- eiriad nodedig at hyn hefyd yn yr Ysgrythyrau sanctaidd. M Uygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau i'w faia, a dỳn i . Awst, 1875.