Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

181 YR OLEWYDDEN. Yr olewydden ydoedd y pren mwyaf lluosog a gwerthfawr a dyfai yn Palestina yn yr amser gynt; ac hyd heddyw y mae yn bren pwysig yno, er nad i'w gymharu a'r hyn a fu. Crybwýllir am yr olewydd yn fynych iawn yn yr Ysgrythyrau, ac y mae yn un o'r prenau cyntaf a enwir ynddynt. Cawn y crybwyÚiad cyntaf am j r olewydden o dan amgylchiadau dyddorol iawn, sef pan y dychwelodd y golomen yn ol at Noah gyda deilen olewydden yn «i chilfìn (Gen. viii. 11). Yn yr hanes am adeiladiad y deml, yr ydym yn cael fod Solomon yn darparu yn mhlith pethau eraill, ugain miì bath (tua galwyn mewn bath) o olew (olẁe oil) i weision Hiram (2. Chron. ii. 10). Olew y pren hwn a ddefnyddid i oleu y lampau mewn tai (Math. xxv. 3), âg ef yr eneiniai y bobl eu cyrff (Salm xxiii. m Hydref, 1876.