Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. AM EBRILL, 1861 ANEAWSDEEATJ. Y MAE anhawsderau yn bethau adnabyddus i bob dyn. Nid oes eisieu rboddi darnodiad na dysgrifìad obonynt er mwyn i'n darllenwyr eu badnabod. Y maent wedi bod rhwng plant dynion a'u bamcanion yn mbob oes o'r byd. Gwelodd y baban anhawsder y dydd y ganed ef, ac wylodd yn ei wyneb. Ni cbafodd y ferch facb estyn ei llaw wen at y briallu aroglber yn y perthi i gyfoetbogi y pwysi oedd ganddi yn ei llaw arall beb iddo ef ymyraetb; ac y mae y bacbgen wedi ei weled wrth nyth y fronfraith, yn nghromfach y Long Diuision, ac yn enwedig yn onglau Euclid, fel y mae yn ei adnabod yn eitbaf da. Ŷ mae wedi bod yn sefyll rhwng y Uanc a gwrthddrych.au ei obeitbion am flynyddau, ac wedi prysuro i wneyd ei gartref yn anedd y pâr ieuanc gyda bod gwybau y briodas wedi myned drosodd. Pan yr oedd yr " hen ŵr llwyd o'r cor- nel," ar un o ddyddiau teg mis Mawrth, yn codi aìlan wrth ei ddwyffon gyda'r bwriad o fyned i'r fan a'r fan am dro ar ol bod, yn llechu wrtb y tân ar hyd misoedd y gauaf, aeth anhawsder i'w gyfarfod i waelod y rhiw, a dadleuodd jn erbyn pob cam a roddodd oddiyno nes cyr- aedd i'w ben. Er fod y pendefig ieuanc uchelgeisiol yn gyru yn ei goach and four, cadwodd anhawsder y blaen arno, a siomodd ei ddysgwybadau ganoedd o weithiau. Y mae y gwleidydd a'r gwladwr, y milwr a'r morwr, y meistr a'r gweithiwr, yr athraw a'r myfyriwr, yr athron- ydd a'r duweinydd, y bendefìges a'r olchwraig, yn gwy- bod trwy brofìad beth ydyw bod mewn llawer cystadleu- aeth egniol âg ef. Ac er iddynt ar brydiau ei orchfygu, a chyraedd eu hamcanion yn fuddugoliaethus, nid ychydig o bryder ac ymdrech a gostiodd yr ornest iddynt; a buont lawer tro arall, ar ol ymdrecb galed a maith, yn gorfod cilio yn ol mewn siomedigaeth a thristwch, wedi cael eu gorchfjrgu. Y mae rbai wedi digaloni yn yr olwg ar yr