Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. AM HYDREF, 1864. YE YSBEYD CENADOL. Y mae crefydd y Beibl wedi ei gwneyd o bwrpas i gyfar~ fod angen dyn syrthiedig; a pha le bynag y mae dyn heb adnabod crefydd y Beibl, nis gall beidio â bod yn dru- enus. Y niae pob peth ond crefydd y Beibl yn ddiffygiol i gyfarfod â hoU eisieu dyn; ond y mae ynddi hi ddigon —y mae ynddi ddigon i ddiwallu pob eisieu, digon i gadw .pob gallu ar lawn waith, a digon i ddyrchafu ei pher- chenog yn gyfartal â dadblygiadau ei alluoedd i fwynhau yn oes oesoedd. Y fath grefydd ardderchog a gogoneddus a raid ei bod! Y mae yn ddigon galluog i godi dyn o'r trueni dyfnaf ag y mae ei natur yn ddarostyngedig iddo ar y ddaear, a'i ddyrchafu mor uchel a gorsedd Mab Duw yn y drydedd nef. Y mae y gaUu hwn wedi ei brofì yn ymarferol mewn mwy na mil-fil o filoedd o engreifftiau: nis gellir byth gyfrif y cohfnau sydd yn nheml Dduw yn y nef a safant yn goffadwriaeth dragwyddol o hyny. Newyddion da o lawenydd mawr i'r holl bobl ydyw fod y fath grefydd yn gyraeddadwy iddynt. XJn o'r testynau mwyaf difyr i Grristion fyfyrio arno ydyw llwyddiant y grefydd ogoneddus hon yn y byd. Ac wrth feddwl ar y testyn hwn, nis gallwn lai na chael ein taraw â syndod wrth weled cynifer o bethau gwasanaeth- gar i'w llwyddiant. Er fod y byd yn erbyn Cristionog- aeth, eto i gyd, yr ydym yn gweled pob peth yn talu gwarogaeth iddi. Y mae pob darganfyddiad mewn gwyddor, a phob dyfais mewn celfyddyd, yn rhoddi teyrn- ged iddi hi; 'ie, y mae hyd yn nod cynddaredd ei gelyn- ion yn cael ei oruwchly wyddu i roddi moliant i Dduw yn ei llwyddiant. Un o " ysbrydion gwasanaethgar" Cristionogaeth ydyw yr ysbryd cenadol. Hwn ydyw yr ysbryd sydd wedi bod yn syinud yr olwynion o fanteision a chyfleua-