Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AM IONAWR, 1865. Y PWYSIGRWYDD 0 GEEFYDD POEEUOL. GAN T PAECH. T. ATTBBEY. "Cofla yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid."—Pase. xii. 1. YSGRIF I. Mae y cynghor hwn yn cael ei roddi gan Solomon, y doethaf o ddynion; ac mae yn ffrwyth ystyriaeth fanwl, pwyll dwfn, a phrofiad helaeth. Yr oedd wedi ymroddi i geisio dedwyddwch gyda holl frwdaniaeth tywysog ieu- ane ag oedd yn hyderus yn yr adnoddion anhyspydd yr oedd awdurdod a chyfoeth wedi eu gosod yn ei feddiant. Yr oedd yn wybodus beth oedd ei gyfaddasrwydd a'i allu i fwynhau, ac wedi penderfynu i beidio ymattal oddiwrth ddim ag oedd yn meddu cymhwysder i foddhau. Mae yn dechreu gyda phleserau gwybodaeth, ac mae yn gosod ei galon i wybod yr hyn oll ag oedd yn cael ei wneyd o dan y nefoedd; ond wedi iddo gasglu mwy o wybodaeth a phrofiad na'r rhai oll a fu o'i flaen, mae yn cael ei ddwyn i'r penderfyniad poenus, "Mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig; a'r neb a chwanego wybodaeth a chwanega ofid." Mae yn disgyn yn nesaf at fwynianau teimlad, a dywed yn ei galon, " Iddo yn awr, mi a'th brofaf â llawenydd; am hyny, cymer dy fyd yn ddifyr." Mae ei diysorau yn cael eu rhoi gyda haeledd ar adeiladau mawrwych, mae ei gynlluniau aruthrol yn cael eu cwblhau gyda phrysur- deb, ac mae y boddhâd i'w ddymuniadau angerddol yn d'od bron yn ddiatreg; a pha beth bynag a ddeisyfai ei lygaid, ni omeddai hwynt, ac ni attaliai oddiwrth ei galòn ddim ag oedd hyfryd. Ond wedi mwynhau y pleserau mwyaf coeth a allasai celfyddyd eu dyfeisio, neu arian