Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÀJí AWST, 1865. MYNYDD Yfì OLEWYDD. Y DBYDEDD DEEM. Gaib anwyl iawn o eiddo Paul yw y gair bach hwnw, " cariad Crist." (2 Cor. v. 14.) Oariad Crist ! Y fath destyn myfyrdod! Y nrwyaf a'r melysaf o bob un yn bod! G-ellir dyweyd amdano fel y dywed y Salmydd am Dduw, " Ei fawredd sydd anchwilladwy." (Salm cxlv. 3.) Dywed Paul ei hun ei fod mor fawr nes bod " uwchlaw gwybodaeth," Eph. iii. 19. Mae'n wir y sonia ef am „ " y lled a'r hyd, a'r dyfnder a'r uchder " a berthyn iddo (Eph. iii. 18); ond wedi'r cwbl, pa le y mae'r meddwl a all ei fesur byth ? Ymrodded dynion,' ac angylion hefyd, i'r gwaith hwnw, os mynant, ninau a safwn gerllaw, aö a ddywedwn wrth y deall mwyaf seraffaidd yn eu mysg, "Ẅele, cyfuwch a'r nefoedd ydyw, beth a wnei di ? dyfn- ach nag uffern yw, beth a elll di ei wybod ? Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr!" " Cariad mawr ; tragwj-ddol gariad; Annherfyrol gariad yw!" " Cariad Crist." Dyma bwnc mawr ac arbenig y Beibl. Mae'r Ysgiythyr Lân yn Uawn ohono. A pha beth fydd- ai'r Beibl hebddo ? Pa beth, yn wir, ond ffurfafen heb haul, corff heb enaid, a'r tabernacl gynt wedi colli'r Shecinah! Cariad Crist yw goleuni, yw bywyd, yw gogoniant y dadguddiad i gyd. Edrychwn i'r man y mynom yn ngoleu y Beibl, a'r cariad hwn yw'r peth uchaf a phenaf yn mhôb man o hyd. Edrychwn i'r byd. Beth yw sail gobaith y peehaduriaid sydd ynddo yn ymguro ac ynymgreinio o hyd? Onid "cariad Crist"? Yr unig angor gref i'w cadw o greigiau coll yw y meddwl melys hwnw, " Yr hwn a'm carodd i, ac a'i dodes ei hun drosof fi." (Gal. ii. 20.) Edrychwn eilwaith i'r eglwys. Craffwn ar y saint yn. eu Uafur blin, ac yn eu hymdrech