Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ehif. 9.] MEDI, 1879. [Ctf. XXXII. ENWOGION. IX.—JAMES MONTGOMERT. [R yr lleg o Fai, 1854, yr oedd mìloedd o alarwyr yn hebrwng i dy ei hir gartref ar hyd heolydd Sheffield, •weddillion, un yr edrychid arno yn gyffredinol fel dinesydd parchusaf ac urddasolaf y lle : ei enw oedd James Montgomery. .. I, meddir, saith o ddinasoedd Groeg yn dadleu yr hawl i fod yn enedigaethle Homer, ar ol iddo farw. Ond gall y tair gwlad a gyfansoddant y Deyrnas Gyfunol gytuno â'u gilydd i ranu yr anrhydedd cysylltieäig ag enw Montgomery. Iwerddon ydoedd gwlad ei dadogaeth, ScoÜand y wlad y ganed ef ynddi, a Lloegr ydoedd wlad ei fabwysiad. Yr oedd ei dad a'i fam yn frodorion o County Antrím. Ganwyd James Montgomery yn oedd,