Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 10.] JIYDEEF, 1879. [Cyf. XXXII. ENWOGION. X,—T. B. SMITHIES. ;YWED Bacon yn rhywle fod enwogrwydd mawr amryw o'r athronwyr Groegaidd wedi cael llawer o elfeuau eu hanfarwoldeb oddiwrfch yr ymddangos- garwch a'i nodweddent fel dysgawdwyr cyhoeddus; ^v^~ ac yn hyn yr oedd Bacon yn cadarnhau dywediad tarawiadol iawn o eiddo Cicero : " Beth a wna ein hathronwyr ? Onid ydynt, hyd yn nod yn y llyfrau a ysgrifenant ar ddirmygu gogoniant, yn gosod eu henwau ar y wynebddalen ?" Tra yr ysgrifenai yr athronwyr hyny yn ddirmygus am wag-ogoniant, wele hwynt yn dra gochelgar rhag i'r cyhoedd a'r oesau a ddelent fod mewn anwybodaeth am awduraeth yr ysgrifeniadau