Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

101 Y SYNAGOGAU. cfftfrE. Gol, diclion na fydd a ganlyn yn annghymeradwy 4|i| gan y dosbarth ieuanc o'ch darllenwyr sydd yn eW' sychedu am wybodaeth ysgrythyrol; ac os bernwch hyny, boed i'r nodiadau dylynol gael lle yn eich " GwiN- LLAN " ffrwythlon. Hhoddwn yma yn I. Ddarluniad ohonynt. Y mae'r gair Groeg, yn ogystal a'r gair Hebraeg, am synagog yn arwyddo yn gyffredin gymanfa, pa un bynag ai sanctaidd ai ansanct- aidd fyddai: ond yn y cyffredin golyga y lle yn yr hwn y byddai yr Iuddewon yn cyforfod i addoli Duw ynddo. Adeilad gyhoeddus oedd y synagog, yn sefyll weithiau o'r tu fewn i'r ddinas, a phryd arall o'r tu allan iddi; a chan amlaf ar fryn. Yr oeddent yn gyffredin a thô drostynt, a thrwy hyny, yn cael eu gwahaniaethu oddiwrth yr hyn a elwid y Proseuche, neu leoedd gweddi, y rhai oeddent yn y maesydd heb dô, ac felly yn agored i'r ffurfafen. Yr oedd yn nghanol y synagog fath o bulpud, o'r hwn le y darllenid, mewn modd difrifol, y gyfraith; a thra- ddodid areithiau. Eisteddai y gwragedd wrthynt eu hunain mewn llófft, wedi ei chau o amgylch â dellt, ac felly gallent weled a chlywed yr hyn a wneid yn y synagog; ond ni allai y bobl eu gweled hwynt. II. Gellid adeiladu synagog lle bynag y byddai deg butelnim—hyny yw, deg o dd}-nion mewn llawn oedran a synwyr, yn rhydd o ran eu seîyllfa fel ag i allu bob amser fod yn bresenol i gynal gwasanaeth y synagog; oblegid yn nghyfrif yr Iuddewon nid oedd llai na deg o'r fath yma yn ddigonol i wneuthur cynulleidfa; a pha le bynag y ceid deg o'r cyfryw yn gallu cyrchu i'r synagog ar bob achosion crefyddol, cyfrifìd y lle hwnw yn ddinasfaior, ac yno y mynent adeiladu synagog. Xid oedd y synagogau yn y dechreuad ond anaml; eithr amlhawyd hwy yn ddirfawr mewn ychjTdig amser. Nid oedd yn nyddiau ein Hiachawdwr un dref o fewn gwlad Judea heb synagog ynddi; ac í'e ddjrwedir i ni fod yn Jerusalem yn unig fwy na phedwar cant ohonynt. Y synagog fwyaf hynod ac enwog a fu erioed gan yr luddewon oedd synagog fawr Alexandria, am yr hon y dywedai ei Hathrawon am y sawl " nis gwélsant na welsant ogoniant Israel." Adeilediä synagogau nid yn unig yn y trefydd, ond yn y wlad f " Medefin, 1867.