Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

221 DETHOLION YSGBYTHYROL.—BM/6. " Trugarhau wrth Seion."—Salm cii. 13—18. fiD awn yn bresenol i ymyraeth â chyfeiriad llythyr- enol a gwreiddiol yr adran y cyfeirir ato uchod; ond edrychwn arno fel " cysgod daionus bethauiddy- fod " yn eglwys Dduw, neu ei arwyddocâd ysbrydol. Y mae y darn yma yn bwysig, ac yn deilwng o sylw pawb sydd yn preswylio yn Seion. Dyma ymweliad Duio ffi bobl yn cael ei sicrhau :—" Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion." Er mai Seion ydyw, dinas y Brenin mawr; eto, y mae mewn angen am dru- garedd dwyfol, am ymweliad dwyfol; ac y mae'r Salm- ydd yn ddibetrus yn cjdioeddi y bydd i'r Goruchaf gyfodi, a thrugarhau wrthi. Nid oes yma yr amheuaeth llöiaf yn nghylch hyn. Dyma amser neillduol yr ymweliad yn cael ei nodi:— " Oanys yr amser i drugarhau wrthi; i'e, yr amser nod- edig a ddaeth." Mae'r pwynt eithafol wedi ei gyraedd ; mae'r cyfnod neillduol wedi d'od; mae'r amodau ang- enrheidiol wedi eu cyflawni. Dymár praiof yn cael ei roddi:—" Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd y Salmydd yn deall yn dda amodolrwydd y trefniadau dwyfol—peth nad yw lluaws o dduwinyddion dan oleuni llachar cristionogaeth, ac yn y bedwaredd gan- rif ar bymtheg, wedi ei ddeall eto ! Owyddai'r Salmydd mai pan fyddai gweision Seion " yn hofíi ei meini, ac yn tosturio wrth ei ílwch hi," y byddai i Dduw Seion gyfodi a thrugarhau wrthi. Ni chyfodai funud cyn hyny, ac nid arosai funud heb godi ar ol hyny. Gofynir yn aml y dyddiau hyn pa bryd y gwelir adfywiad a diwygiad eto yn yr eglwysi. Mae'r atebiad wrth law—pan fyddo preswylwyr Seion yn " hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi;" hyny yw, yn parchu, yn hofíi, yn mawr- hau moddion gras—heb esgeuluso eu cydgynulliad eu hunain, fel y mae arfer rhai; îe, ysywaeth, fel y mae ar- fer llawer y dyddiau hyn. 0 ! 'r esgeulusdra arswydus sydd ar foddion gras yn mhlith arddelwyr yr enw mawr ! Lleied sydd rcewn cymhariaeth i'r hyn allai fod yn y cyf- arfod boreu Sabboth, yn y bregeth wythnosol, yn y cîass, ac yn y cwrdd gweddi! Tra y bydd pethau yn y cyflwr hwn, maegwir ddiwygiad yn anobeithiol ac anmhosibl. Boed i ni gael gweìed beth ydyw effeithiau yr ymweliad Dwyfol ar yr amser nodedig:—" Felly y cenedloedd a EHAGFYE.