Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

181 CADW DBWS Y GWEFUSAU. ,weddiodd Dafydd ar yr Arglw ydd, gan ofyn iddo " osod cadwraeth o flaen ei enau, a chadw drws ei wefusau. Yr oedd gan y Salmydd dri pheth mewn golwg pan yn gofyn hyn:—" ofn cyffroi y brenin, yr hwn yr oedd efe y pryd hwn yn ei curiogaeth; na dyweyd dim yn fach am Saul, yr hwn yr oedd efe wedi ffoi rhagddo; na dyweyd dim yn annheilwng am gref- ydd." O na fyddai i bawb g/meryd brenin Israel yn eiampl yn hyn. Ond mae lle i ofni fod y weddi uchod yn cael ei hesguluso yn fawr, os nad ei hannghofio yn Üwyr. Yr oedd llawer o bethau yr hen oruchwyliaeth i ddarfod, mae yn wir, ond nid yr oll ohonynt; ac yn mhlith ereill, nid oedd gweddio i ddarfod. Fel ag y mae iawn y groes yn beth mawr Duw, felly y mae gweddi yn beth mawr dyn. Ac un o'r prif bethau y dylai dyn weddio amdanynt ydyw, ar i Dduw gadw drws ei wefus- au, oblegid yma y mae y tan yn byw. Byddai yn dda i'r eglwys gristionogol feddwl am hyn. Os ydyw yr arferiad o'r weddi neillduol yma o eiddo Dafydd yn cael ei hes- geuluso, dylid ar bob cyfrif ei chymhell ar bawb, a hyny gyda difrifwch, oblegid mae cadw drws y gwefusau yn un o'r pethau ag y mae mwyaf o angen amdano o bob peth. Ni wnai neb y tro gan Dafydd i gyflawni y gorchwyl pwysig ond yr Arglwydd; ac mae yn debyg nad oes neb yn alluog i'r gwaith ond efe. Mae yn wir y clywir yn aml rai o gymeriad isel yn dywedyd, " Os na thewi, mi a gauaf dy safn." Oallech feddwl fod yr hwn fo yn llefaru gyda'r fath awdurdod yn door-Jceeper heb ei ail. Ond rhodder clust o ymwrandawiad, a cheir prawf buan nad yw y dyn yn abl i'r gwaith : rhaid cael un mwy na dyn i gadw drws gwefusau pechadur. Mae rhyw linyn yn rhedeg yn ddirgelaidd o wefusau dyn i'w galon, a dywed y Beibl, " mai o helaethrwydd y galon y llefara y genau." Nis gŵyr neb am y cyfryw linyn, ac nis gall neb gael gafael ynddo ond Ysbryd Duw yn unig. —A dyma'r modd y mae efe yn rheoli y drws. Mae i'r gwefusau ddau orchwyl penodol—attal i mtwn, ac attal allan. Mae lluaws o bethau oddiallan i ddyn pe eu cymerai, a wnelent niwaid iddo, os nad ei ladd. Máe yn wir fod y Beibl yn dywedyd, " nad oes dim ag sydd yn myned i mewn i ddyn yn ei halogi," ond mae llawer o k J HrBEEí, 186».