Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. ANEECHIAD Y GOLYGYDD. fpNWYL DDAiiLLENYDD,—Gan fod golygy&diaeth y Winllan am y flwyddyn hon wedi ei ymddiried i'm gofal, efalíai nad anmhri- odol a fj'ddai gair o anerchiad wrth ymafiyd yn ein gwaith. Wrth ystyried y tir uchel y mae y Winllau wedi gyraedd yn barod, y clwstwr ffrwythau a gynyrcha o íìs i íis, ac yn arbenigol felly fy mod yn ei derbyn o law un o lenorion blaenaf Cymru, yr wyf' yn teimlo yn oínus iawn ar adegau, rhag y bydd i'n misolyn parchus syrthio mewn teilyngdod. a cholli graddau o'i ddylanwad. Gallaf, modd byn5g, eich sicihau fod llwyddiant y Winllan yn mhob ystyr yn gorphwys yn agos at fy nghalon, a'mbod yn barod i aberthu unrhyw beth ar ei halîor, er mwyn, os yn bosibl, gadw i fyny ei theilyngdod llenyddol uchel, a'i gwneyd yn fendith i blant ac ieuenctid ein pobl. Y nôd yr ymdrechir ei gyraedd fydd symbylu ein darlienwyr i ddysgyblaeth a diwylliaeth feddyliol achrefyddol. Mae, yn ddiau, lawer meddwl uwchrauúol, lawer aturylith nefolryw yn mhlith ieuenctid ein Hysgohon Sabbothol, yn eysgu yn dawel, heb erioed deìmlo grym y bywyd cynheuid sydd ynddynt; ac mae arnom eisieu i lais y Wmllan dreiddio trwy waelodion eu hysbryd i'w deffro. Oes, mae arnom eisieu cael ein pobl ieuainc, nid yn ddar- llenwyr yn unig, ond yn feddylwyr. Hefyd, ymdrechir gwneyd y Winllan yn gyfrwng arbenig i ddwyn y píant at Iesu Grist, i adnabyddiaeth brofiadol o gariad y Ceidwad. Caiff y " groes a'r gwaed " le amlwg ar ei thudalenau yn wastad. Gan fod ein darllenwyr yn amrywio o blant saith oed, dyweder, i fyny i rai mewn addfedrwydd oedran, mae eu hamgyffredion a'u chwaeth o angenrheidrwydd yn dra gwahanol. Ehaid i ni felly ymdrechu peri i'r Winllan ddwyn amrywiaeth o ffrwythau o fis i fis, er mwyn cael ychydig ar gyfer pawb. Hyderwn y ceidw y darllenwyr y ffaith hon mewn cof, fel na feiont yn ddiachos. Boed i'r cryf beidio diystyru ymborth y gwan, ac na fydded i'r gwan achwyn am na fedr yn hawdd ymborthi ar y bwyd a fwriedir i'r rhai cryfion. Dymunwyf ddyweyd gair wrth ein gohebwyr ffyddlon. Erfyniaf arnoch estyn i mi yr unrhyw gynorthwy ag a roddasoch i'm bíaen- orydd. Deallwyf fod rhai o'r rhai ffyddlonaf yn feistriaid ar eu gwaith, ac yn deall i'r dim pa foâd a pha beth i ysgrifenu. Nid oes B IONAWB, 1874.