Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bhif. 9.] MEDI, 1881. [Cyf. XXXIV. ENWOGION. IX.—YR ARLYWYDD GARFIELD. j'N ngwyneb y cyffro angerddol a'r dyddordeb dwfn a phoenus a deimlwyd trwy yr holl f yd gwareidd- iedig mewn canlyniad i'r ymgais llwfrgiaidd a dieflig a wnaed i fradlofruddio Arlywydd yr Unol Dalaethau ar yr ail ddydd o mis Cí-orphenaf, diau y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael darlun a braslinelliad o fywyd yr Arlywydd Garfield. James Abram Garfield, Arlywydd presenol Unol Dalaethau America, a aned Tachwedd 19eg, 1831, mewn log-houae cyffredin yn mherfeddion coedwigoedd yr Orange Township, Cuyahoga County. Hana o deulu euwog am eu duwioldeb a'u gonestrwydd,