Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bhif. 7.] GORPHENAF, 1882. [Cyí. XXXV. ®ttÍ00rjÌ0IX. VI.—WILLIAM WILBERFORCE. MAE Senedd Prydain Fawr yn meddu ar restr o enwau mor ddysglaer ac urddasol âg eiddo senedd unrhyw wlad neu oes erioed; a diau mai teilwng iawn o'i le yn eu mysg ydyw yr enw byd-adnabyddus ao anfarwol—William Wilberforce. Os ydyw llwyr gysegriad galluoedd meddyliol a chorfforol i'r amcan mawr a gogoneddus o leihau dyoddefìadau a dileu iau a gorthrwm dynolryw yn cyfansoddi hawl i edmygedd ac anrhydedd anfarwol, yna y mae gwrthddrych y darlun uchod wedi enill hyny gan bawb trwy holl wledydd crêd. Ganwyd Ẅilliam Wilberforce yn Hull, Yorkshire, Awst 24, 1759. Disgynai o deulu henafol a pharchus; ac yr oedd gan ei henafìaid ystâd helaeth yn Wilberfoss (oddiar ba un y tarddodd