Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

181 Y GWEITHIWR A'R SABBOTH. pen. iii.—Cyfaddasrwyld y nuill i'r llall. '' Duwcariad yw."—Pel bod eariadlawn y mae'newyllysio dedwyddwch uwchaf dyn : fel un sydd yn ewyllysio felly, gallwn benderfynu fod pob deddf a osoda o fìaen dyn yn amod ei ddedwyddwch, ac fod pob sefydliad a argy- mbella i'w sylw o duedd uniongyrchiol i'w lesau ; ac os felly, y mae yr ystyriaeth fod y Sabboth wedi cael ei osod gan Dduw yn arwain pawb a gredant hyn i gredu hefyd, fod gosodiad y Sabboth yn sefydliad buddiol i ddyn. A diau fod munud o ystyriaeth i neillduolderau cyfansodd- iad, ae angenion amrywiol dyn ar un llaw, ac i amcan a manteision cysylltiol y Sabboth sydd ar gyfer dyn ar y llaw arall, yn ddigon i argyhoeddi j mwyaf hwyrfrydig o fuddioldeb y Sabboth i'r gweithiwr ; ac nid hyny yn unig, ond fod ei sefydliad yn deler anhebgorol ei gysur, a'i ffyniant tymorol ac ysbrydol. Edrycher ar ddyn fel y mae ; ei gorff sydd mewn angen gorphwysdra ac amgeledd—ei feddwl sydd mewn angen seibiant' a diwjdliad—ei deimladau, pa rai sydd raid idd- ynt wrth ymarferiad a choethiad—ei safie gymdeithasol sydd yn cynwys ei ddyledswyddau, a'igofalon, ynnghyda'r holl gysylltiadau moesol, a'i angenion mawrion fel bod moesol dirywiedig. Ystyrier eto weddnodau y Sabboth. Beth a ddywed y Beibl amdano ? Os ydyw yn ddydd o orphwysdra, caiff corff lluddedig y gweithiwr ymddadebru, ar ol llafur un wythnos, erbyn llafur wythnos arall, a'i feddwl, trwy gael rhyddhâd oddiwrth ofalon, fwynhau seibiant i ymddiwjdlio ac adloni. Os ydyw yn ddydd i addoli, caiff y tlawd trafferthus hamdden i gymdeithasu gyda Duw, a mwynhau yr holl fanteision cysylltiol; ac 08 golyga addoli yn gynulleidfaol, caiff fantais i ofalu am iachawdwriaeth ei deulu. yn gystal a'i enaid ei hun ; a gosodir ef dan angenrheidrwj^dd i lanhau ei berson, a gwella ei ddiwyg, er ymddangos yn drwsiadus " yn mhlith pobol;"a chelr mantais ddyblyg oddiwrthhyny. Neu os ydyw yn ŵyl o goffadwriaeth am y gwaith cyfryngol a berffeithiwyd yn adgyfodiad Crist oddiwrth y meirw, neu yn fìaenbrawf o wynfydedigrwydd y Sabboth tragwydd- ol yn y nef, ceir mantais oddíwrtho, oblegid y mae adgoffa yr hyn a fu yn cyfeirio meddwl 5 gweithiwr yn ol, ae jn deffro ynddo adfeddyliad; ac yn argoeli yr hyn a ddaw, 2 K