Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IEUENCTYD CYMRU. Cyf. V. IONAWR, 1903. Rhif. 49. AT EIN GOHEBWYR. 1. Archebioa a Thaliadau i Mr. G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdare. 2. Gofala Mr. William John Evans, Commercial Street, Aberdar, am y Gerddoiiaeth. 3. Y Farddoniaeth i'r Parch. Ben Dayies, Pantteg, \Ystalyfera. 4. Pob peth arall i'r Goi.ygydd. BWRÜD Y GÜLYGYDD. Mor ddiolchgar ydym am ysgrifau byrion, mewn iaith blaen a glan, ac ar destynau y dydd i bobl ieuainc. Cofied ein Gohebyddion Ôyddlon am hyn. Gwa- hoddwn ysgrifau oddiwrth feibion a merched. Gwnawn ein rhan i'w perffeithio os bydd eisieu, cyn eu hymddangosiad. Geill hyny fod o ddysg i'r bobl ieuainc eu hunain. Caiff ysgrif Samuel Davies dd'od allan yn Chwefror, ac eiddo R. D. Jenkins ac ereill sydd ar ein Bwrdd yn sefyll am eu tro. TREM AR 1902. Blwyddyn a gofir yn hir ydyw 1902. Yr hyn a welwyd amlycaf ar ei hyd ydoedd egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb crefyddol mewn dwylaw drwg. Ni bu y fath gynyg ar fywyd y rhai hyn er's Uawer dydd ag yn 1902, a hyny gan arweinwyr y bobl yn wleidyddol ac yn grefyddol. Canfyddir hyn yn hanes díeflig y Mesur Addysg. yr hwn a arweiniwyd i sylw y Ty Cyffredin gan Mr. Balfour, Mawrth y 24ain, mewn araeth o ddwy awr. Hwn yw drychiolaeth hayraf, dylaf a gwaethaf 1902- rii hanfod yw : yn gyntaf, cymeryd rheolaeth Hddysg y plant o law y bobl; yn ail, rhoi y flaenoriaeth ymarferedig i d íwylaw y glerigiaeth ; ac yn drydydd, trwy hyny i lwyddo Eglwys- yddiaeth. gxn adiel addysg y plant yn eil-beth neu yn bellach yn olna hyny. Osoef» gan ein pobl ieuainc ronyn o barch i goffadwriaeth y 'l'adau Ymneillduol : a gronyn o olwg ar egwyddorion Ymneillduaeth, a gronyn o awydd aui greíydd rydd mewn gwlad rýdd—rhaid iddynt yn awr i agor eu llygaid a gwylied symudiadau yr offeiriadaetl^ a bod yr bendant a g >leuedig, neu fe'i ceir cyn hir yn nghafaelion haiarnaidd yn Archesgob a'r Pab. Melldith benaf 1902 ydyw y Mesur Addysg hwn.